Rhif Cofrestri Elusen 525762 / Registered Charity Number

Amdanon ni
Sefydlwyd Cronfa Glyndŵr yn 1963 er mwyn hyrwyddo addysg Gymraeg.
Ein nod yw gwneud gwahaniaeth!
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweithredu yn y ffyrdd canlynol.
1. Mae nifer o ysgolion a Chylchoedd Meithrin wedi cael grantiau i greu taflenni marchnata deniadol er mwyn cynnal ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o werth addysg Gymraeg. Mae’r ymgyrchoedd hyn wedi sicrhau cynnydd yn nifer y plant sy’n cael y cyfle i dderbyn addysg Gymraeg.
2. Rhoddwyd cymorth ariannol i nifer o Gylchoedd Meithrin i brynu offer neu adnoddau newydd. Mae hyn wedi eu helpu i wella eu delwedd a rhoi gwell gwasanaeth i’r plant. Mewn rhai achosion y cymorth hwn oedd wedi helpu’r Cylch i gael dau ben llinyn ynghyd a’u hachub rhag gorfod cau dros dro tra’n ‘mynd trwy gyfnod anodd’.
3. Hefyd rhoddwyd cymorth ariannol i rai teuluoedd unigol er mwyn talu ffioedd neu gostau teithio. Onibai am hyn, fyddai’r plant ddim wedi gallu parhau i fynychu cylchoedd neu ysgolion Cymraeg.
Am fwy o fanylion am y grantiau, ewch i’r adran Cylchlythyr.
Rydym yn cydweithio gyda Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) a’r Mudiad Meithrin (MM), i geisio sicrhau bod ein hadnoddau yn cael eu cyfeirio i fannau lle mae gwir angen – a lle gall ein cyfraniad wneud gwahaniaeth.
Mae Cronfa Glyndŵr yn aelod o Mudiadau Dathlu’r Gymraeg.
Allwn ni wneud gwahaniaeth yn eich ardal chi?
Cysylltwch â ni.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan arweinyddion grwpiau neu benaethiaid ysgol neu gan unigolion. (Gweler yr adran Sut i wneud cais.)
Tipyn o hanes cynnar y Gronfa
Cysylltiadau gyda mudiadau eraill
Mudiad Meithrin www.meithrin.cymru
Rhag Rhieni dros Addysg Gymraeg. http://www.rhag.net/
Merched y Wawr. http://merchedywawr.cymru/
Mentrau Iaith Cymru http://www.mentrauiaith.org/
Dyfodol. http://www.dyfodol.net
Cymdeithas yr Iaith http://www.cymdeithas.cymru
Nifer o ymwelwyr
Edrychwch ar y Fidio's yma Look at these YouTube presentations
Noddwyd gan arian Cronfa Glyndwr https://www.youtube.com/channel/UCSFfDnSYlR_lzrSTgG2q4uQ/videos