CronfaGlyndŵr.cymru (yn hyrwyddo addysg gymraeg)

  • ApĂȘl y Gronfa
  • Newyddion diweddaraf
  • Amdanon ni
  • Gwneud cais
  • O ble y daw'r arian?
    • Rhodd Cymorth
  • Ymddiriedolwyr
  • Cylchlythyr
  • Preifatrwydd / Privacy
  • Digwyddiadau /Newyddion
  • English / About us
    • The Appeal
    • How to apply
    • How are we funded? >
      • Gift Donation
    • Trustees
    • Newsletter
    • Events
Picture
​


 

                                   APÊL Y LLYWYDD ANRHYDEDDUS
                                                                                                                               

 

Annwyl  Gyfeillion

Rwy’n ysgrifennu atoch ar ran Cennard Davies, Llywydd Anrhydeddus Cronfa Glyndŵr yr ysgolion Cymraeg. Sefydlwyd y Gronfa trwy haelioni Trefor a Gwyneth Morgan yn 1963 i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg. Ers hynny mae’r ymddiriedolwyr wedi rhannu grantiau sylweddol i gylchoedd meithrin, ysgolion unigol, mudiadau iaith ac eraill sy’n gweithio’n ddiwyd i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg.  Gweler Yma

​ Ar gyfer eu cynorthwyo i wella eu darpariaeth a’u gwasanaethau trwy farchnata’n effeithiol a sicrhau adnoddau safonol y dyfarnwn ein grantiau’n bennaf. Mae manylion y grantiau hyn a’r modd y maent yn ‘gwneud gwahaniaeth’ cadarnhaol i’r sector addysg Gymraeg ar ein gwefan www.cronfaglyndwr.cymru ac ar y daflen a atodir.  Gweler Yma

Ond i ateb y galw mae angen cronfa ddigonol. Yn anffodus mae 2020-21 wedi bod yn flwyddyn heriol iawn i addysg Gymraeg gyda chylchoedd meithrin dan warchae a mudiadau iaith dan straen. Er gwaetha’r anawsterau, maent yn benderfynol o ddal ati. Diffyg adnoddau sy’n eu llesteirio. Ac o’r herwydd mae wedi bod yn flwyddyn heriol i’r Gronfa hithau, gyda galwadau a gofynion yn llawer mwy niferus ac yn uwch nag yn y gorffennol.  Yn wir, mae’n argyfwng, ac nid ydym bellach yn gallu ymateb i bob cais am gymorth er mor deilwng ydyw.

A dyma, gobeithio, lle gallwch chi ein cynorthwyo, trwy gyfrannu naill ai trwy rodd neu  gyfamodi (gweler y daflen a atodir  Gweler Yma)     Ein nod, trwy’r apêl hon, yw cryfhau’r Gronfa a sicrhau ei dyfodol fel y gallwn ninnau gefnogi’r targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Gwerthfawrogwn bob cyfraniad i hyrwyddo’r gwaith pwysig hwn. Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych. Byddwn yn cau’r Apêl ddiwedd mis Mai 2021.

Diolch yn fawr iawn

​Catrin Stevens
(Cadeirydd Cronfa Glyndŵr)

​,  
Proudly powered by Weebly