CronfaGlyndŵr.cymru (yn hyrwyddo addysg gymraeg)

  • Apêl y Gronfa
  • Newyddion diweddaraf
  • Amdanon ni
  • Gwneud cais
  • O ble y daw'r arian?
    • Rhodd Cymorth
  • Ymddiriedolwyr
  • Cylchlythyr
  • Preifatrwydd / Privacy
  • Digwyddiadau /Newyddion
  • English / About us
    • The Appeal
    • How to apply
    • How are we funded? >
      • Gift Donation
    • Trustees
    • Newsletter
    • Events



GRANTIAU - ADRODDIADAU A DDERBYNIWYD 2018
 
Marchnata
(Baneri i farchnata’r Cylch)
“Mae niferoedd y Cylch Meithrin wedi cynyddu. Mae mwy o bobl yn cysylltu’n uniongyrchol gyda’r Cylch oherwydd manylion cyswllt sydd ar y faner. Mae’r faner hefyd yn ei gwneud yn haws i bobl ein ffeindio oherwydd bo’r adeilad wedi ei osod rhwng dwy adeilad fawr arall.”
 
(Adnoddau i farchnata’r Cylch a phecynnau ar gyfer rhieni)
“Fe wnaethom ddefnyddio busnes lleol i gael posteri, flyers a cardiau busnes ei gwneud yn broffesiynol. Mae’r cynnyrch yma wedi helpu hysbysebu’r Cylch ac wedi cael effaith bositif gan fod plant sy’n byw y tu allan i’r ardal leol yn mynychu’r Cylch. Mae rhieni Ti a Fi yn hoffi’r pecynnau Cymraeg a sawl un am ddysgu Cymraeg.”

 
(Adnoddau i farchnata’r Cylch)
“We spent most of the grant on A5 flyers advertising basic information about the Cylch including the times of our Ti a Fi and Cylch Meithrin groups.  We have also used it over the year to pay for the printing of individual posters to advertise various fundraising events including an autumn treasure hunt, film morning, sponsored scoot, a quiz night and several others.
We have given out the flyers in as many local shops, cafés and public spaces as possible.  This has meant that our parent and toddler group has steadily grown in numbers so that instead of taking on average £10-£15 a session we are taking £30-£40 a session which has greatly helped in covering our costs and keeping the Cylch viable.  This has in turn meant that we have sufficient numbers to keep the Cylch Meithrin group running as we are reaching a much wider audience than previously.  We are very grateful to Cronfa Glyndŵr for the help we received at such a difficult time which has without doubt contributed to the continuation of the Cylch Meithrin.  Diolch yn fawr!”
 
(Cynhyrchu posteri, taflenni a chardiau busnes i hysbysebu’r Cylch)
“Dosbarthwyd y taflenni ar hyd a lled yr ardal. Mae’r Cylch wedi elwa yn fawr, mae ymwybyddiaeth o’r Cylch wedi codi a llawer o rieni wedi dangos diddordeb. Mae’n bleser nodi bod nifer y plant sy’n mynychu’r Cylch wedi cynyddu tipyn ac mae’r Cylch ar hyn o bryd yn y broses o benodi aelod ychwanegol o staff i alluogi derbyn mwy o blant i’r sesiynau. Mae’n sicr bod y taflenni a’r cardiau wedi bod yn gyfrwng gwerthfawr iawn tuag at hysbysebu’r Cylch ac ni fyddai modd iddynt fod wedi gwneud hynny heb y grant a gafwyd gan Gronfa Glyndwr felly diolch yn fawr iawn.”
 
(Cynhyrchu adnoddau i farchnata’r Cylch sef, baner, taflenni a graffeg ar gyfer bws mini)
“We benefitted from the grant as we were able to promote the nursery through the flyers in our local area and from this we were able to increase the amount of Flying Start places due to the demand of children/parents wanting their child to attend a Welsh medium setting. The graphics for the mini bus allowed people to see that not only are we a Welsh medium setting but we also have the use of Wrap around available. Our Wrap around plays a big part of our service as it allows us to transport children to and from other schools as well as home. The graphics made our mini bus more presentable and ensured the Cylch’s logo was made visible.”
 
(Cynhyrchu baner, taflenni a phosteri i farchnata’r Cylch)
“Roedd y Cylch wedi elwa o ddeunydd proffesiynol, deniadol ar gyfer marchnata’r ddarpariaeth. Dosbarthwyd taflenni yn yr ardal leol ac i ysgolion lleol. Mae’r faner wedi bod yn help i godi ymwybyddiaeth pobl lleol – cafwyd ymholiadau gan bobl oedd yn byw yn agos i’r cylch ond oedd heb sylweddoli o’r blaen bod y cylch yno.
Cododd niferoedd y Cylch rhwng Hydref 2016 a Mehefin 2017 o 4 plentyn i 13 plentyn. Mae’r Ti a Fi hefyd yn gwneud yn dda gyda 9 o deuluoedd yn mynychu. Rydym yn bwriadu hysbysebu a marchnata’r cylch yn yr un modd yn ystod y misoedd nesaf gan bod taflenni gyda ni o hyd, er mwyn ceisio codi’r niferoedd eto. Diolch yn fawr i chi am eich cyfraniad, heb grant o’r fath ni fyddai’r Cylch wedi gallu cynhyrchu deunydd marchnata o safon uchel.”
 
(Cynhyrchu pecynnau ar gyfer rhieni)
“The grant has helped us enormously to promote our work in the Cylch Meithrin. This autumn term, we have been full every morning with 32 children on the register and are allowed 16 children per session. Most autumn terms, in the past, we have struggled with numbers but are full now until end of summer term 2018 and have a waiting list. I have enclosed a copy of the parent pack given to Parents. We also were able to have printed text to accompany displays put up to enhance the childrens’ play and learning experiences in the Cylch Meithrin.”
 
 
Adnoddau
(Ysgol Gynradd - Offer ar gyfer gweithdai coginio)
“Mae cael yr offer yma i’r plant wedi hwyluso’r sesiynau coginio’n fawr iawn. Maent yn dysgu geirfa a brawddegau newydd ac yn cael mwynhâd ar yr un pryd.”
 
(Ysgol Gynradd - Prosiect darllen cilyddol)
“Bu’r grant o gymorth mawr wrth fynd ati i geisio hybu ymwybyddiaeth y plant o Chwedlau Cymraeg. Roedd medru prynu fersiwn o‘r chwedlau a oedd yn gallu ateb anghenion pob grwp oedran o fudd mawr. Yn ychwanegol, roedd medru prynu chwaraewyr CD, storiau ar CD a chlustffonau yn werthfawr tu hwnt. Roedd hyn yn golygu bod grwpiau bach yn gallu elwa o wrando ar chwedlau safonol fel tasg annibynnol.
Roedd defnyddio’r cardiau clebran yn ffordd effeithiol iawn o fedru datblygu cystrawen naturiol. Yn naturiol, mae’r plant yn hoff iawn o wasgu botymau, ac wrth wasgu botymau rhain roedden nhw’n gallu clywed patrwm, neu ymadrodd Cymraeg ar gyfer defnyddio yn eu chwarae rol. Erbyn hyn, mae’r plant yn gallu recordio eu hunain yn dweud ymadrodd neu idiom/ patrwm sydd angen cofio ar gyfer tasgau llafar.
Mae’r holl offer wedi bod o fudd mawr wrth fynd ati i gyflawni’r syniad gwreiddiol, ond mae wedi cael effaith ar waith llafar y plant yn gyffredinol. Nawr bod yr offer yma gennym ar lawr y dosbarth, rydym yn gallu parhau i adeiladu ar waith y llynedd. Rydym yn dal i ddewis chwedl bob tymor yn ogystal â darllen chwedlau yn anffurfiol hefyd.”


Cylchlythyr

Picture
Cynnwys:
1.
Adroddiad ar weithgareddau 2019
2. Adroddiad ar weithgareddau 2018
3. Adroddiad ar weithgareddau 2017

1  ADRODDIAD BLYNYDDOL ar weithgareddau 2019

1. Cyflwyniad
Bu eleni yn flwyddyn nodedig, yn hanes y Gronfa, o safbwynt gweithgaredd, nifer y ceisiadau a chyfanswm y grantiau a ddyfarnwyd. Cynhaliwyd pum cyfarfod cyffredin o’r ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal, gwnaed rhai penderfyniadau trwy ymgynghoriad e-bost.

2. Ceisiadau
Rhoddwyd ystyriaeth i 32 cais yn ystod y flwyddyn. Gohiriwyd dau gais, gwrthodwyd pump (ddim yn gymwys neu ddiffyg gwybodaeth) a bu’r canlynol yn llwyddiannus:
Cylch Meithrin Pentrebaen £600 Marchnata
Cylch Meithrin Dol y Bont (Dinas Mawddwy) £250 Arwyddion Addysgol
Cylch Meithrin Hermon (Penfro) £175 Adnoddau
Cylch Meithrin Machynlleth £330 Arwyddion Addysgol
Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle’r Ynn (Llansawel) £510 Marchnata
Gŵyl Hanes Cymru £175 Sioe hanes Cymru
Cylch Ti a Fi Casnewydd/Torfaen £200 Adnoddau/Marchnata
Cylch Meithrin Cwmbrân £150 Adnoddau
Cylch Meithrin Plantos, Caerdydd £200 Adnoddau/Marchnata
Cylch Ti a Fi Pont-y-pŵl £285 Adnoddau
Cylch Meithrin Trefynwy £200 Adnoddau/Marchnata
Cylch Meithrin Pont-y-pŵl £150 Adnoddau
Menter Iaith Fflint/Wrecsam £300 Offer/Cwis
Cyn-ddisgyblion Ysgol Gymraeg Caerdydd £110 Taflenni
Cylch Meithrin Terrig, Treuddyn £150 Baner
Cylch Meithrin Llanerch, Llanelli £330 Marchnata
Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad (Caerdydd) £500 Marchnata
Cylch Meithrin Bae Cinmel £200 Marchnata
Cylch Meithrin Dinas Powys £250 Adnoddau
Cylch Meithrin Tre-lech £400 Marchnata
Cyngor Sir Caerfyrddin £300 Llyfryn Canllawiau Gwaith Cartref
Cylch Meithrin y Coed Duon £160 Marchnata
Cylch Meithrin Bwcle £ 345 Marchnata
Cylch Ti a Fi Llangeitho £125.22 Adnoddau
Cylch Meithrin Bodawen £200 Marchnata


Cyfanswm y grantiau oedd £6595.22 (2018 - £4,050). Bellach, mae’n amod bod y sefydliad sy’n derbyn grant yn darparu adroddiad i’w papur bro lleol, yn cyfeirio at gyfraniad y Gronfa, a gwyddom i adroddiadau o’r fath ymddangos yn y Barcud, y Bedol, y Blewyn Glas, y Cardi Bach, y Dinesydd a Bwletin Cyngrau Gwirfoddol Torfaen. Hefyd, derbynnir adroddiad, wedi blwyddyn, ynghylch effeithiau’r grant. Mae’r adroddiadau a dderbynnir yn galonogol iawn (gweler yr atodiad) ac yn cadarnhau bod y Gronfa yn llwyddo i ‘wneud gwahaniaeth’.

3. Cyfraniadau
Unwaith eto, bu cyfeillion y Gronfa yn hael iawn eu rhoddion yn ystod y flwyddyn, gan gyfrannu £3791 (2018 - £3990). Cydnabyddwn eu cefnogaeth yn ddiolchgar. Yn ogystal, gwnaethpwyd elw ar Ginio’r Hydref, gan gynnwys rhoddion ar y noson, o £2042. ‘Roedd ein hincwm, eleni, fodd bynnag, yn llai na chyfanswm y grantiau a ddyfarnwyd. Felly, ‘rydym am geisio cynyddu nifer y cyfranwyr i’r Gronfa a cheisio denu rhoddion gan gwmnïau yng Nghymru.

4. Codi proffil y Gronfa
Penderfynwyd cynnal arbrawf trwy geisio denu ceisiadau i’r Gronfa oddi wrth Gylchoedd Ti a Fi/Meithrin ac Ysgolion Cynradd Gymraeg mewn ardaloedd penodedig. Cychwynnwyd gyda siroedd Castell Nedd Port Talbot a Mynwy gan ddenu un cais gan ysgol gynradd o un sir ac un gan gylch meithrin o’r llall. Dilynwyd hyn ym Merthyr Tudful, Cwm Cynon ac ardal Tregaron gan ddenu un cais o’r olaf gan gylch meithrin. Yna, gweithredwyd yng ngweddill sir Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr gan ddenu un cais o’r olaf gan ysgol gynradd. Siomedig, ar y cyfan, fu’r ymateb, hyd yn hyn.

Dosbarthwyd ein taflenni yn Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd. Cynhaliwyd cyfarfod llwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst lle bu Nic Parry yn holi Aled Roberts (Comisiynydd y Gymraeg) a dilynwyd hwnnw gan Ginio llwyddiannus iawn, ym mis Hydref, yng Nghlwb Golff Radur, lle cafwyd anerchiad gan Guto Harri. Adolygwyd a diweddarwyd ein gwefan (www.cronfaglyndwr.cymru) gan ychwanegu adroddiadau o’r ddau ddigwyddiad uchod. Buom yn cyfarfod a swyddogion Mudiad Meithrin i drafod eu cynllun SAS (Sefydlu a Symud). Bu cynrychiolydd yng nghyfarfod Grŵp Trawsbleidiol y Gymraeg, yn y Senedd, ac ymatebwyd i’r “Ymgynghoriad – Cwricwlwm Drafft i Gymru 2022” gan nodi, yn arbennig, ddiffyg cyfeiriadau penodol at hanes a diwylliant Cymru.
.


2.  ADRODDIAD BLYNYDDOL ar weithgareddau 2018

1. Cyflwyniad
Pleser o’r mwyaf oedd croesawu Cennard Davies fel ein Llywydd Anrhydeddus i olynu y diweddar Arglwydd Gwilym Prys-Davies. Mae Cennard eisoes wedi gwneud cyfraniad sylweddol i waith y Gronfa. Penodwyd Helen Prosser i olynu Rhodri Morgan fel Ysgrifennydd Cofnodion y Gronfa. Rhoddodd Rhodri flynyddoedd o wasanaeth i’r Gronfa wrth gadw cofnodion cyfarfodydd yr ymddiriedolwyr ers ei benodiad yn un o’r ymddiriedolwyr yn 1983.
Cynhaliwyd pedwar cyfarfod cyffredin o’r ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal, gwnaed rhai penderfyniadau trwy ymgynghoriad e-bost.


2. Ceisiadau
Rhoddwyd ystyriaeth i 16 cais yn ystod y flwyddyn a bu’r canlynol yn llwyddiannus:

Cylch Meithrin Hen Golwyn       £300 Adnoddau
Cylch Meithrin Cerrigydrudion £300 Adnoddau
Cylch Meithrin Clocaenog        £300 Adnoddau
Ymgyrch Trebiwt a Grangetown £500 Marchnata
Ysgol Gyfun Maes Garmon      £250 Ymweliad theatr
Gŵyl Hanes Cymru                   £350 Sioe hanes Cymru
Ysgol Gynradd Pen Barras      £300 Adnoddau
Cylch Meithrin Edern                 £300 Adnoddau
Cylch Meithrin Y Felinheli         £300 Creu hafan i’r plant
Cylch Meithrin Y Betws             £250 Adnoddau
Cylch Meithrin Yr Eglwys Newydd £500 Adnoddau Offer Technoleg
Cylch Meithrin Cynwyd              £400 Adnoddau
Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau £150* Marchnata

Cyfanswm y grantiau oedd £4,200 ond gan na wireddwyd cynllun * uchod, cyfanswm y grantiau a ddosbarthwyd oedd £4,050 (2017 - £4,075). Tynnwyd un cais yn ôl, gwrthodwyd un cais am nad oedd yn cynnig gwerth am arain ac ni dderbyniwyd y wybodaeth angenrheidiol ar gyfer un cais arall. Bellach, mae’n amod bod y sefydliad sy’n derbyn grant yn darparu adroddiad i’w papur bro lleol yn cyfeirio at gyfraniad y Gronfa. Hefyd, derbynir adroddiad, wedi blwyddyn, ynghylch effeithiau’r grant. Mae’r adroddiadau a dderbynir yn galonogol iawn ac yn cadarnhau bod y Gronfa yn llwyddo i ‘wneud gwahaniaeth’..

3. Cyfraniadau
Unwaith eto, bu cyfeillion y Gronfa yn hael iawn eu rhoddion yn ystod y flwyddyn, gan gyfrannu £3990 (2017 - £4301). Cydnabyddwn eu cefnogaeth yn ddiolchgar.

4. Codi proffil y Gronfa

Cymerwyd sawl cam, yn ystod y flwyddyn, i godi proffil y Gronfa gyda’r nod o gynyddu’r cyfraniadau ariannol a nifer y ceisiadau i’r Gronfa. Yn dilyn cyhoeddiad y daflen, yn 2017, i hyrwyddo’r Gronfa, cynhaliwyd dau brif ddigwyddiad yn ystod y flwyddyn. Yn gyntaf, cynhaliwyd cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd pan fu Vaughan Roderick yn holi Huw Jones (Cadeirydd Awdurdod S4C). ‘Roedd tua hanner cant yn bresennol yn y cyfarfod a chafwyd cyhoeddusrwydd ar radio Cymru, yn “Golwg” a’r papurau bro. Yn ail, cynhaliwyd cyfarfod ym mis Tachwedd yn Yr Egin, Caerfyrddin, pan rhoddwyd anerchiad gan Cennard Davies “Tua’r Filiwn”. Rhyddhawyd datganiadau i’r wasg yn dilyn penodiad ein Llywydd Anrhydeddus a’r ddau
ddigwyddiad uchod a lluniwyd taflenni pwrpasol ar eu cyfer. Buom, hefyd,yn dosbarthu ein taflenni hyrwyddo yn
yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Parti Ponty. Adolygwyd a diweddarwyd ein gwefan
(www.cronfaglyndwr.cymru) gan ychwanegu adroddiadau o’r ddau ddigwyddiad uchod.

5. Polisi Preifatrwydd
Lluniwyd polisi prefatrwydd ar gyfer ein cyfranwyr a’r rheiny sydd yn gwneud ceisiadau i’r Gronfa a’i osod ar ein
gwefan .
.

3.    Adroddiad ar weithgareddau 2017 

Cyflwyniad
  1. Tristwch o’r mwyaf oedd derbyn y newyddion, ym mis Mawrth, am farwolaeth ein Llywydd Anrhydeddus, yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies. ‘Roedd yn un o’r ymddiriedolwyr a sefydlodd y Gronfa yn 1963 a bu, hefyd, yn gyfreithiwr mygedol i’r Gronfa tan iddo ymddiswyddo yn 1993 pan gafodd ei benodi yn Llywydd Anrhydeddus y Gronfa. Derbyniwyd, hefyd, y mis hwnnw, ymddeoliad Margaret Griffiths fel ymddiriedolwraig a Thrysorydd y Gronfa. Rhoddodd hithau flynyddoedd lawer o wasanaeth i’r Gronfa, fel ymddiriedolwraig er 1983 a Thrysorydd er 1989 ac fe’i penodwyd yn un o Is-Lywyddion Anrhydeddus y Gronfa.  Penodwyd Dafydd Hampson-Jones yn Drysorydd yn ei lle a chroesawyd Helen Prosser fel ymddiriedolwraig.
    Cynhaliwyd pum cyfarfod cyffredin o’r ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal, gwnaed rhai penderfyniadau trwy ymgynghoriad e-bost
  2. Ceisiadau
  3. Rhoddwyd ystyriaeth i 20 cais yn ystod y flwyddyn gan gynnwys 8 cais o’r flwyddyn flaenorol, a oedd yn disgwyl penderfyniad, a bu’r canlynol yn llwyddiannus:
     
    Cylch Meithrin Caerau, Caerdydd                                    £250                       Cludiant
    Cylchoedd Meithrin Ardal Taf a’r Fro                               £500*                      Cwrs Cymraeg i Staff y Cylchoedd
    Ysgol Gynradd Drefach, Llanelli                                       £400                       Prosiect Darllen Cilyddol
    Ysgol Gynradd Betws y Coed                                           £200*                      Marchnata
    Cylch Meithrin Terrig,Treuddyn                                         £150                       Marchnata
    Menter Iaith Maelor                                                           £500                       Ffilmiau cryno – addysg bellach/uwch
    Menter Iaith Dinbych                                                         £750                       Llawlyfr marchnata addysg Gymraeg
    Cylch Ti a Fi, Rhuthun                                                       £300                       Adnoddau
    Munchkins, Llanbedr Dyffryn Clwyd                                  £75                        Prosiect dwyieithrwydd
    Ysgol Gynradd Gymraeg, Tonyrefail                                 £500                       Cyhoeddi/dosbarthu taflenni marchnata
    Cylch Meithrin Hill Street, Wrecsam                                  £250                       Marchnata
    Cylch Ti a Fi/Meithrin, Dyffryn Banw                                  £350                       Marchnata
    Cylch Meithrin Pentrecelyn                                                £300                       Adnoddau
    Cylch Meithrin Llanfair Caereinion                                     £250                       Adnoddau
     
    Cyfanswm y grantiau oedd £4,775 (2016 - £3,850) ond gan na wireddwyd cynlluniau * uchod, cyfanswm y grantiau a ddosbarthwyd oedd £4,075.  Tynnwyd un cais yn ôl, diystyriwyd dau gais gan na dderbyniwyd y wybodaeth angenrheidiol a gwrthodwyd tri chais gan iddynt fod y tu allan i’n canllawiau. ‘Roedd pedwar cais yn weddill ar ddiwedd y flwyddyn. Er 2011, mae’r Gronfa wedi dosbarthu ymron i £30,000 mewn grantiau. Bellach, disgwylir i’r rheiny sydd yn derbyn grant ddarparu adroddiad blynyddol am ddwy flynedd ynghylch effeithiau’r grant.
  4. Bu cyfeillion y Gronfa yn hael iawn eu rhoddion yn ystod y flwyddyn, gan gyfrannu £5,037  (2016 - £2,938). Cydnabyddwn eu cefnogaeth yn ddiolchgar. Yn ogystal, cynhaliwyd Cinio llwyddiannus yng Nghlwb Golff Creigiau gyda Dr Hefin Jones, Deon cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn westai a gwnaed elw o £1,106.
  5. Codi proffil y Gronfa
    Cymerwyd sawl cam, yn ystod y flwyddyn, i godi proffil y Gronfa gyda’r nod o gynyddu’r cyfraniadau ariannol a nifer y ceisiadau  i’r Gronfa. Adlewyrchir hyn yn y cyfraniadau a’r grantiau uchod. Cyhoeddwyd taflen liwgar ddwyieithog, ym mis Mai, i hyrwyddo’r Gronfa -“Addysg Gymraeg: Sut Gallaf I Ei Helpu I Ffynnu?  - Welsh Medium Education: How Can I Help It Thrive?”. Dilynwyd gyda datganiad i’r prif gyfryngau perthnasol. Yn sgil hynny, ymddangosodd y Cadeirydd ar raglen Prynhawn Da ar S4C a’r Ysgrifennydd Cyffredinol ar raglen Shan Cothi ar Radio Cymru. Paratowyd erthygl wedi’i theilwra ar gyfer ardaloedd gwahanol yn son am waith y Gronfa ar gyfer pob Papur Bro.
    Dosbarthwyd y daflen yn Eisteddfod yr Urdd, a gynhaliwyd ym Mhenybont, yr Eisteddfod Genedlaethol, a gynhaliwyd ar Ynys Môn, a rhai o wyliau’r Mentrau Iaith yn ogystal â thrwy RhAG a Mudiad Meithrin..
    Bellach, mae amodau’r grantiau yn cynnwys amod bod y rheiny sydd yn derbyn grant yn darparu adroddiad ar gyfer eu papur bro lleol yn cyfeirio at gefnogaeth y Gronfa a’u bod yn dosbarthu pump o daflenni’r Gronfa ymysg rheiny a fyddai’n debygol o gyfrannau at y Gronfa.
    Adolygwyd a diweddarwyd ein gwefan ( www.cronfaglyndwr.cymru ) ac, erbyn hyn, derbynnir y mwyafrif helaeth o geisiadau i’r Gronfa trwy e-bost. Ein nod parhaol yw hybu addysg Gymraeg a ‘gwneud gwahaniaeth’.



Proudly powered by Weebly