Mererid Hopwood yn ein Cinio eleni 2022
Mererid a Helen ein cadeiryddes
Isod
Betsi Griffiths, cyn-brifathrawes Ysgol Gymraeg Tonyrefail, Guto Harri, y gŵr gwadd a Catrin Stevens, Cadeirydd y Gronfa.
Betsi Griffiths, cyn-brifathrawes Ysgol Gymraeg Tonyrefail, Guto Harri, y gŵr gwadd a Catrin Stevens, Cadeirydd y Gronfa.
CINIO CRONFA GLYNDŴR 2019
Bu Cinio Mawreddog y Gronfa ar ddydd Sadwrn 12fed Hydref 2019 yn llwyddiant mawr. Cynhaliwyd ef yng Nghlwb Golff Radur ac roedd y bwyd yn rhagorol a’r gweini yn ardderchog. Ein gŵr gwadd oedd Guto Harri, newyddiadurwr a darlledwr o fri a thraethodd yn hynod ddifyr am ei gefndir yn cael ei fagu yng Nghastell Hensol, ym mro Morgannwg, am ei addysg yn Nhonyrefail, Bryntaf a Llanhari a’i gyfnod ym Mhrifysgol Rhydychen, cyn troi i sôn am ei yrfa fel newyddiadurwr yn gweithio i Boris Johnson a’i gysylltiadau eraill ym myd gwleidyddiaeth. Gwerthfawrogwyd a mwynhawyd yr araith yn fawr gan y gynulleidfa. Roedd hi’n braf croesawu ei fam, Lena Pritchard Jones a Betsi Griffiths, ei gyn-brifathrawes yn Ysgol Gymraeg Tonyrefail atom hefyd.
Diolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y noson, i’r rhai a gyfrannodd yn hael tuag at y Gronfa ei hun ac i bawb a fynychodd.

Nic Parry yn holi Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg
Cynhaliwyd sesiwn ddifyr a dadlennol ym Mhabell y Cymdeithasau 1 ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy ar ddydd Mercher 7fed o Awst, pan fu Nic Parry, y barnwr a’r sylwebydd pêl-droed yn holi Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg am ei swydd newydd a’i obeithion ar gyfer dyfodol yr iaith Gymraeg. Roedd holi Nic Parry, a oedd wedi cymryd orig allan o’i ddyletswyddau yn arwain ar brif lwyfan y pafiliwn, yn hwyliog ac eto’n dreiddgar.
Eglurodd Aled Roberts ei fod wedi bod yn teithio o gwmpas Cymru ers ei benodi i’w swydd newydd ddiwedd y gwanwyn eleni, i geisio deall profiadau siaradwyr y Gymraeg a’u hagweddau ati. Ymhlith y pynciau trafod roedd cefndir ieithyddol y Comisiynydd ei hun, heriau’r dasg o’i flaen fel Comisiynydd, yn enwedig pwysigrwydd sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu y tu allan i’r sefydliadau addysgol a chyrraedd un filiwn o siaradwyr erbyn 2050.
Dyma’r eildro i Gronfa Glyndŵr drefnu sesiwn o’r fath yn yr Eisteddfod a hynny, y tro hwn, mewn ardal lle na fu’n rhagweithiol iawn hyd yn hyn. Fodd bynnag, roedd cynulleidfa dda iawn wedi ymgynnull i glywed y drafodaeth a chanmol ar y sesiwn am onestrwydd a hynawsedd y ddau siaradwr.
Nic Parry in conversation with Aled Roberts, Welsh-language Commissioner
An interesting and thought-provoking session was held in Societies’ Unit 1 on the Conwy County National Eisteddfod on Wednesday 7th August, when Nic Parry, judge and football commentator, was in conversation with Aled Roberts, the Welsh-language Commissioner about his new post and his hopes for the future of the Welsh language. The interview conducted by Nic Parry, who had taken a break from his presenting duties on the main Eisteddfod pavilion stage, was both lively and incisive.
Aled Roberts explained that he had spent the few months since his appointment in late spring this year, travelling around Wales trying to understand Welsh speakers’ experiences of the language and their attitudes towards it. Among the other discussion topics was the Commissioners’ own linguistic background, the challenges of the task ahead and especially the importance of ensuring that the Welsh language thrives outside the educational establishments and reaching the one million target of speakers by 2050.
This is the second time Cronfa Glyndŵr has organised such a session in the Eisteddfod and this time we were in an area where we had not been very proactive before. However, it was pleasing to have attracted a very good audience to hear the discussion and the session was praised for its honesty and good humour.
to edit.

CRONFA GLYNDŴR yn y GORLLEWIN
Yn unol â’n strategaeth farchnata bresennol, penderfynodd Cronfa Glyndŵr fentro cynnal digwyddiad yng ngorllewin Cymru am y tro cyntaf ar nos Iau 15fed Tachwedd. Gwahoddwyd ASau, ACau, cynghorwyr a charedigion yr iaith yn lleol i ymuno â ni mewn derbyniad yng nghartref newydd S4C, yr Egin, ac i glywed anerchiad gan Cennard Davies, ein Llywydd Anrhydeddus ar y testun ‘Tua’r Filiwn’.
Cyflwynwyd Cennard Davies gan y Cadeirydd, Catrin Stevens a soniodd am gefndir sefydlu’r Gronfa yn 1963 a’r nod o ‘wneud gwahaniaeth’ heddiw. Eglurodd bod dwy ochr i waith y Gronfa, sef sicrhau Cronfa ddigonol trwy gynnal gweithgareddau codi arian a derbyn rhoddion, a dosbarthu grantiau. Dosbarthwyd taflenni yn dangos sut y cafodd y grantiau eu rhannu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac yn arbennig y cyfraniadau a wnaethpwyd i helpu addysg Gymraeg yn sir Gâr. Roedd y cyfraniadau i gylchoedd meithrin ac eraill yn y sir y trydydd uchaf yng Nghymru. .
Yn ei anerchiad soniodd Cennard am ei gysylltiadau teuluol cryf ag Esgairdawe yn sir Gâr a nododd mor bwysig oedd cynnal yr iaith yn y sir allweddol hon, lle ceir y nifer mwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Trafododd y data diweddaraf am niferoedd siaradwyr Cymraeg y sir a chanmolodd y cyngor am ei strategaeth iaith gadarnhaol a phwrpasol. Cyfeiriodd yn ôl at weithgarwch Dan Issac Davies, brodor o Lanymddyfri, a sefydlodd Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1885 i ymgyrchu am addysg Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg a chyrraedd targed o dair miliwn o siaradwyr dwyieithog. Cymharodd Cennard sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru â sefyllfaoedd yr Wyddeleg yn Iwerddon a’r Aeleg yn yr Alban a gresynodd fod niferoedd y siaradwyr yno’n crebachu ac nid yn cynyddu er gwaethaf targedau uchelgeisiol. Cynigiodd bolisïau Gwlad y Basg yn fodel gwerth ei hystyried a hynny ar sail cydweithio rhwng y sector wirfoddol a’r Llywodraeth. Yn allweddol dwedodd y dylem ystyried targed Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn her ac yn gyfle euraidd i hyrwyddo’r iaith. Galwodd am ail-ddeffro’r ysbryd ymgyrchol a chenhadol dros yr iaith. Agorwyd llawer o ysgolion Cymraeg yn y gorffennol oherwydd pwysau ac ymgyrchoedd cryf gan rieni a braf fyddai gweld y sefyllfa honno’n codi eto. Un agwedd ar hyn fyddai cefnogi gwaith y Gronfa yn ymarferol wrth iddi gefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg ym myd addysg.
Cafwyd trafodaeth fer i gloi. Tynnwyd ein sylw at ambell wendid yn strategaethau iaith Gwlad y Basg a dwedodd Peter Hughes Griffiths, ar ran Cyngor sir Gâr, eu bod, bellach, yn cynhyrchu llyfryn i’w ddosbarthu i bawb sy’n symud i mewn i’r sir yn egluro polisi iaith y sir a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg.

Sesiwn Arbennig Cronfa Glyndŵr yn Eisteddfod 2018
Huw Jones (Cadeirydd Awdurdod S4C) yn cael ei holi gan Vaughan Roderick
Gyda ein cadeirydd Catrin Stevens a’n Llywydd Cennard Davies
Huw Jones (Cadeirydd Awdurdod S4C) yn cael ei holi gan Vaughan Roderick
Gyda ein cadeirydd Catrin Stevens a’n Llywydd Cennard Davies
DigwyddiadauCynnwys
1 Ein Llywydd Newydd Mr Cennard Davies 2 Cinio Cronfa Glyndwr 14 Hydref 2017 3.Cinio Cronfa Glyndŵr 24 Hydref 2015 4.Cinio Cronfa Glyndwr 12 Hydref 2013 5.Erthygl i Ninnau - Papur Bro Cymry Gogledd America 6.Copi electronig o boster marchnata – enghraifft 7.Sylwadau’r Gronfa ar ddogfen ymgynghorol Llywodraeth Cymru: Rheoliadau drafft Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2013 Cronfa Glyndwr 24 Hydref 2015 1 Ein Llywydd Newydd
Braint i Gronfa Glyndŵr yw cael cyhoeddi mai Cennard Davies o Dreorci yw Llywydd Anrhydeddus newydd y Gronfa. Bydd yn olynu’r Arglwydd Gwilym Prys Davies, un o sylfaenwyr y Gronfa, a fu farw yn 2017..
Brodor o Gwm Rhondda yw Cennard Davies a derbyniodd ei addysg yn Ysgol y Porth cyn graddio o Brifysgol Abertawe. Bu’n darlithio yng Ngholeg Addysg Caerdydd ac yna yn Bennaeth Astudiaethau Ieithyddol ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae’n adnabyddus ledled Cymru fel arweinydd ac arloeswr ym maes Cymraeg i Oedolion a chyhoeddodd nifer o lyfrau ar gyfer dysgwyr. Roedd yn adnabyddus iawn fel un o diwtoriaid Catchphrase ar Radio Wales. Yn y Rhondda, ymgyrchodd dros addysg Gymraeg am ddegawdau a bu’n Gadeirydd Cenedlaethol Mudiad YsgolionMeithrin yn y saithdegau. Bu’n gynghorydd sir ac yn weithgar iawn yn ei gymuned gyda phapur bro Y Gloran, Cymdeithas Gymraeg Treorci a gyda chapel Hermon. Dwedodd Catrin Stevens, Cadeirydd Cronfa Glyndŵr, am y penodiad, ‘‘Rydym wrth ein bodd fod Cennard Davies wedi cytuno i dderbyn ein gwahoddiad i fod yn LlywyddAnrhydeddus. Mae parch aruthrol iddo ledled Cymru am ei gyfraniad amhrisiadwy i Gymru a’r Gymraeg. Bydd yngaffaeliad mawr i’r Gronfa wrth i ni geisio ‘gwneud gwahaniaeth’ i addysg cyfrwng Cymraeg a chyfrannu at y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.” Prif nod Cronfa Glyndŵr yw hyrwyddo addysg Gymraeg trwy gynnig grantiau bychain i gylchoedd meithrin, ysgolion unigol a mudiadau eraill sy’n gwneud gwaith i ddatblygu addysg Gymraeg. Click here
to edit. 2 Cinio Cronfa Glyndwr 14 Hydref 2017
Ein Cadeiryddes, Catrin Stevens, gyda’r gwestai arbennig, Dr Hefin Jones
CRYNODEB O ANERCHIAD Dr HEFIN JONES
Gyfeillion gai’n gyntaf ddiolch yn fawr iawn i chi am y gwahoddiad hwn i’ch plith; mae’n fraint ac anrhydedd, ac rwy’n hynod falch fy mod hefyd wedi cael fy ngwahodd fel Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. O edrych o’m cwmpas rwy’n gweld nifer o wynebau cyfarwydd - cyfeillion y mae’n llwybrau wedi croesi mewn cynifer o wahanol gylchoedd; yn rhychwantu cyrff llywodraethol rhai o ysgolion y ddinas i gylchoedd crefyddol a llenyddol, o gyd-weithwyr yn y brifysgol i gyfeillion, Cymrodyr, darlithwyr a chefnogwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Braf iawn bod yn eich plith i ddathlu eich gwaith, ac yn wir, i ddathlu'r twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg sydd, erbyn heddiw, ar gael ar bob lefel ar draws y disgyblaethau.
Diwedd y mis a aeth heibio bu i un o’m myfyrwyr ymchwil gyflwyno ei draethawd doethuriaeth i’r Brifysgol. Maes ei ymchwil, ymchwil gwyddonol, oedd effaith newid hinsawdd ar bysgod eog ucheldir Cymru a dyma’r cyntaf o’r un ar bymtheg ar hugain o fyfyrwyr ymchwil rwyf wedi cael y fraint o’u goruchwylio dros y blynyddoedd i gyflwyno ei draethawd yn Gymraeg. Ymysg ei gyfres o sylwadau diolch ‘roedd y frawddeg: “Mae cyflwyno’r traethawd hwn yn cyflawni cymal olaf fy addysg ffurfiol, addysg yr wyf wedi cael y fraint o’i derbyn oll drwy’r Gymraeg.” O’r meithrin i draethawd gradd uwch mewn gwyddoniaeth; ddechrau’r flwyddyn bydd y ddoethuriaeth yn cael ei hamddiffyn mewn viva vice gyfangwbl Gymraeg ei hiaith. Onid godidog y ffaith nac anghyffredin yw hanesion o’r fath bellach ym Mhrifysgol Caerdydd, nac yn wir yn un o brifysgolion ein gwlad. “Ond yn yr ysgol mi ges ... Lessyns 'History', lessyns 'Geography', lessyns Inglish o hyd ac o hyd; ac ambell i lesyn yn Welsh - chwarae teg, am mae Cymro bach oeddwn i.” Wel, i raddau helaeth iawn, fel Dafydd Iwan, dyna oedd natur fy addysg innau yn Ysgol Ramadeg Llandysul nôl yn yr 1970au. Er hynny, oherwydd ymdrechion arwrol yr athrawon Cymraeg, Miss Caron Jones a Mrs Janem Jones, ein hathro Addysg Grefyddol, a oedd hefyd yn dysgu Hanes ym Mlwyddyn 2 (Blwyddyn 8 erbyn hyn), Mr Baker Jones, a fynnai mai Hanes Cymru yr oeddem yn ei ddysgu, ac arweinyddiaeth gadarn y Prifathro, Mr Arwyn Pierce, ‘rwy’n credu i Gymreictod, diwylliant, balchder ac ymdeimlad Cymreig, hydreiddio trwom yn Ysgol Llandysul. Fe’n trwythwyd â’r Gymraeg a chariad at ein hiaith a’n cenedl ar waethaf y cyfrwng Saesneg. “Eto, y bydd i ni gael dwy brifysgol neu leoedd astudio cyffredinol, sef un yng Ngogledd Cymru a’r llall yn Ne Cymru, mewn dinasoedd, trefi neu leoedd i’w cyhoeddi gan ein llysgenhadon i’r pwrpas hwn.” Geiriau Owain Glyndŵr yn Llythyr Pennal. Fe gofiwch gyd-destun y llythyr. Ysgrifennwyd Llythyr Pennal yn Lladin yn 1406, yn rhan o ymgyrch Owain i gryfhau ei sefyllfa trwy greu partneriaeth gyda'r Brenin Ffrainc, Siarl VI. Yn y llythyr bu i Owain ddatgan ei ffyddlondeb i Bab Avignon, Bened XIII; o’r hyn ddeallaf, ‘roedd y babaeth yn y cyfnod hwn wedi ymrannu - yr oedd brenin Ffrainc, Siarl VI o blaid Pab Avignon a Harri’r IV o Loegr o blaid Pab Rhufain. Gyda’i ddatganiad, dyma Owain yn gwneud yn glir ei fod, fel Tywysog Cymru, wedi gwrthod yn llwyr â Brenhiniaeth Loegr. Yn y llythyr mae'n gosod ei amcanion am Eglwys Gymreig a dwy brifysgol yng Nghymru, sefydliadau angenrheidiol i'w weledigaeth o wlad gref ac annibynnol. ‘Rwyf innau yn teimlo rhyw fath o gynhesrwydd hanesyddol wrth fentro meddwl bod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhan o olyniaeth dymuniad Owain Glyndŵr yn Llythyr Pennal. Gan symud ymlaen rhyw ganrif. Galwyd William Salesbury ar wahanol droeon ‘Y Cymro modern cyntaf’, ‘awdur maniffesto’r Dadeni Dysg yng Nghymru’ a ‘sylfaenydd mudiad yr iaith Gymraeg’. Ysgolhaig nodweddiadol o’r Dadeni ydoedd, a’i ddiddordebau’n cwmpasu gwyddoniaeth, diwinyddiaeth, cyfraith, iaith, llenyddiaeth a sawl peth arall. Ysgrifennodd lysieulyfr, lluniodd y geiriadur Cymraeg argraffedig cyntaf a cheisiodd ddeffro’i gyd-Gymry i her technoleg newydd yr oes. Ei lafur mwyaf, er hynny, fu cyfieithu’r Testament Newydd i’r Gymraeg a’i gyhoeddi yn 1567 gan osod seiliau rhyddiaith Gymraeg o’r pryd hwnnw allan. Priodol iawn felly mai is-bennawd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 450 o flynyddoedd yn ddiweddarach, yw ei siars: ‘Mynnwch ddysg yn ych iaith’. Gallwn dreulio llawer mwy o amser yn olrhain yr hyn ddigwyddodd dros y canrifoedd ers Llythyr Pennal a chyfieithu’r Testament Newydd yn y frwydr am sicrhau addysg ysgolheigaidd safonol trwy gyfrwng ein mamiaith. Bydd nifer ohonoch yn gwybod a chofio am ymdrechion glew Cymdeithas yr Iaith ac ymdrechion Dafydd Glyn Jones a’r frwydr am Goleg Ffederal Cymraeg. Rhaid cyfaddef, er hynny, wrth i’r mileniwm newydd wawrio rhyw 17 o flynyddoedd yn ôl, ac er gwaethaf y cynnydd a fu, dros yr hanner canrif ddiwethaf, mewn addysg Gymraeg yn y sectorau cynradd ac uwchradd, araf a darniog fu’r datblygiad yn y sector addysg uwch. Roedd y ddarpariaeth yn ein prifysgolion yn dal yn or-ddibynnol ar ewyllys da unigolion a, gyda rhai eithriadau, roedd yn digwydd heb fawr o gynllunio ffurfiol ar lefel genedlaethol. A dyna oedd y sefyllfa hyd nes i ni gyrraedd y cyfnod mwyaf diweddar cyfredol hwn. Daeth y cysyniad a’r dymuniad o Goleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhan anhepgor o ymrwymiad polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru dros y cyfnod 2007-2011 drwy gytundeb Cymru’n Un. Gofynnwyd i’r Athro Robin Williams, cyn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, i ffurfio gweithgor i ystyried y posibilrwydd o sefydlu Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a dyna ddigwyddodd. Fe ges i fy ngwahodd i fod yn aelod o’r gweithgor hwnnw ac i mi’n bersonol, ni fu pethau byth yr un fath! Gai egluro pam rwy’n dweud hynny. Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i, yr adeg honno mor gefnogol â hynny i’r cysyniad o Goleg Cenedlaethol cyfrwng Cymraeg. Er mod i wedi sicrhau bod darpariaeth Gymraeg ar gael i Fiolegwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ers i mi gyrraedd yn 2000, ‘roedd ffurfioli hynny o fewn rhyw gynllun cenedlaethol yn fy ngwneud - am ryw reswm - rhywfaint yn anghyfforddus. Pan dderbyniais alwad ffôn yr Athro Robin Williams yn fy ngwahodd i fod yn aelod o’r gweithgor fy ymateb greddfol a pharod oedd dweud nad oeddwn yn briodol gan fod gennyf amheuon mawr am y datblygiad. “Rwy’n gwybod”, oedd ymateb yr Athro, “dyna pam rwy am i chi fod yn aelod!” Beth bynnag, bum yn aelod o’r gweithgor, a chwblhawyd yr adroddiad erbyn Mis Mehefin 2009. Derbyniodd y Gweinidog Addysg y prif argymhellion ym Mis Rhagfyr 2009, a sefydlwyd Bwrdd Gweithredu o dan gadeiryddiaeth Geraint Talfan Davies ym Mis Ebrill 2010. Bu hwn yn gyfnod cyffrous iawn wrth i ni weithredu argymhellion Adroddiad yr Athro Robin Williams - bu trafod brwd a ddylid cael Prifathro, sut oedd sicrhau cefnogaeth a pherchnogaeth y Prifysgolion o’r Coleg, a beth ddylid galw’r sefydliad. Ym Mis Mawrth 2011 sefydlwyd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg a chofrestrwyd y myfyrwyr cyntaf ym Mis Medi y flwyddyn honno. Beth felly mae’r Coleg Cymraeg yn ceisio ei wneud? Ers ei sefydlu yn 2011, bu’r Coleg yn ceisio sicrhau mwy o gyfleoedd astudio i fyfyrwyr cyfrwng Gymraeg a hynny mewn partneriaeth â’r prifysgolion; bu’n ariannu, datblygu a hyfforddi darlithwyr cyfrwng Cymraeg ar gyfer y dyfodol, ynghyd ag ariannu ysgoloriaethau israddedig ac ôl-raddedig. Trwy ei rwydwaith o ganghennau yn yr wyth brifysgol bu’r Coleg yn cefnogi myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg a gweithio’n ddygn i gynyddu’r nifer o fyfyrwyr sy’n dewis astudio’r cyfan neu ran o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Law yn llaw a hynny, bu’r Coleg yn datblygu modiwlau, cyrsiau ac adnoddau o’r radd flaenaf i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg. A ydy’r Coleg wedi llwyddo? Roedd cyfnod cyllido cyntaf y Coleg Cymraeg yn ymestyn dros bum mlynedd, o 2011 i 2016. Yn y cyfnod hwnnw cafodd 115 o swyddi darlithio newydd eu creu drwy’r Cynllun Staffio Academaidd, cofrestrwyd dros 6,000 o fyfyrwyr yn astudio rhywfaint o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg a thros 2,500 yn astudio dros draean o’u cwrs trwy’r Gymraeg. Sefydlwyd Canghennau o’r Coleg yn yr wyth brifysgol, cyllidwyd 27 o brosiectau strategol sylweddol mewn dros 15 o feysydd, a chrëwyd dros 700 o adnoddau digidol. Ar ben hyn, cyllidwyd dros 50 o Ysgoloriaethau Ymchwil a datblygwyd darpariaeth gydweithredol ar draws y prifysgolion ym meysydd Daearyddiaeth, y Gyfraith, Ieithoedd Modern, Hanes, Cerddoriaeth a’r Diwydiannau Creadigol. Yn y flwyddyn academaidd a aeth heibio, cofrestrwyd dros 2,000 o fyfyrwyr newydd yn aelodau o’r Coleg. Datblygwyd Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg sydd yn cael ei chydnabod gan nifer o gwmnïau yng Nghymru fel arwydd o allu ieithyddol, ac sydd bellach yn cael ei achredu gan y Cydbwyllgor Addysg. Mae’r cyfnodolyn academaidd Gwerddon yn cyhoeddi erthyglau ysgolheigaidd safonol ar draws y disgyblaethau - o geomorffoleg afonol Cymru i anifeiliaid ymledol a’u heffeithiau ar ecosystemau, o ddadymdroelliad y modwlws cymhlyg mewn glud-elastigedd llinol i lywodraeth ranbarthol a chymdeithas sifil yng Nghymru a Chatalwnia. Ym Mis Awst 2016 sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen o dan arweiniad Delyth Evans gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i adolygu gweithgareddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Roedd gweithgaredd y Grŵp yn ymateb i ymrwymiad o fewn rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer y pum mlynedd nesaf - Symud Cymru Ymlaen - i archwilio’r posibilrwydd o ehangu cylch gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Fel rhan o’i gylch gorchwyl roedd y Grŵp yn ystyried y canlynol: a yw model a strwythur presennol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn briodol ac yn addas at y diben o hyrwyddo a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg addysg uwch o 2017 ymlaen; beth yw’r opsiynau i’r dyfodol ar gyfer cyllido’r Coleg; oes sicrwydd am gynaladwyedd y berthynas rhwng y Coleg a sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; a ddylai cylch gwaith y Coleg ymestyn i gynnwys y sector ôl -16; a beth yw rôl y Coleg mewn ymateb i argymhellion Adolygiad Diamond a datblygiadau polisi diweddar eraill. Cafwyd adroddiad cadarnhaol o waith y Coleg dros y bum mlynedd a aeth heibio; cyflwynwyd 25 o argymhellion. Efallai mai yn yr un mwyaf pellgyrhaeddol yw hwnnw sy’n nodi: “Dylai’r Llywodraeth ymestyn rôl y Coleg i fod yn gorff strategol cenedlaethol cydnabyddedig ar gyfer datblygu’r Gymraeg ar draws y sectorau addysg uwch, addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith”. Gan ddychwelyd at addysg uwch, beth yw’r sefyllfa bellach? A ydy’r frwydr wedi ei hennill ac oes yna sicrwydd y bydd llawer mwy o fyfyrwyr yn medru dweud, fel y myfyriwr ymchwil hwnnw y soniais amdano ar y dechrau: “Mae cyflwyno’r traethawd hwn yn cyflawni cymal olaf fy addysg ffurfiol, addysg yr wyf wedi cael y fraint o’i derbyn oll drwy’r Gymraeg.” “Deuparth gwaith ei ddechrau” meddai’r hen ddihareb, ac mae hynny, yr un mor wir am ddatblygiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol â phopeth arall. Nid hawdd fu sefydlu'r Coleg a thu nôl i’r llwyddiant mae nifer o weithwyr sydd wedi cerdded sawl milltir ychwanegol i sicrhau ein bod lle rydym, yn arbennig felly, Ioan Matthews, y Prif Weithredwr, a Dafydd Trystan, Dylan Phillips a Gwennan Schivone, yr Uwch-Reolwyr Academaidd. Ond erys yr heriau. Mae’r cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn enghreifftiol mewn nifer o sefydliadau addysg uwch. Yn fy mhrifysgol i fy hun, Caerdydd, mae’r nifer sy’n astudio 40 credyd y flwyddyn, sef traean o’i gwaith, wedi cynyddu 126% dros y bum mlynedd ddiwethaf. Ond, ac mae hwn yn ond mawr, hyd yn oed gyda’r cynnydd hwn prin un o bob pum myfyriwr sy’n rhugl yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n cofrestru i wneud hyn. Yn fy nisgyblaeth i, y Gwyddorau Biolegol, o’r 17 myfyriwr sydd wedi ymuno â ni eleni sydd wedi derbyn ei haddysg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac eistedd Lefelau A trwy’r Gymraeg, dim ond tri sydd wedi cymryd y cyfle i wneud unrhyw agwedd o’u cwrs trwy’r Gymraeg. Dim ond tri arall o’r flwyddyn, i wneud cyfanswm o chwech, sydd wedi ymrwymo o’r 32 sydd yn medru’r Gymraeg. Rhaid gofyn pam? A rhaid hefyd gofyn pam nad oes canran uwch o ddisgyblion ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ymdaflu eu hun i barhau gydag addysg cyfrwng Cymraeg na disgyblion o ysgolion nad sy’n cael eu categoreiddio yn rhai cyfrwng Cymraeg. Mae’r sefyllfa yn wahanol mewn ambell ddisgyblaeth, mae Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd yn llawer mwy llwyddiannus yn hyn o beth gyda chanran uchel iawn o fyfyrwyr sy’n medru’r Gymraeg yn dilyn cyrsiau Cymraeg. O droi nôl at Fioleg, cynnig tystiolaeth anecdotaidd bod amharodrwydd i fod yn wahanol i weddill y 550 o fyfyrwyr sydd ym Mlwyddyn 1 Bioleg, a’r cysyniad rhyfedd mai rhywbeth i’r ‘ysgol’ yw cyfrwng Cymraeg yn chwarae rhan bwysig ym mhenderfyniad myfyrwyr i beidio dilyn modiwlau Cymraeg. Cwestiwn efallai mai rhaid i ni ei ofyn yw sut mae datblygu'r ymdeimlad o Gymreictod a theyrngarwch i’r iaith y soniais amdano wrth sôn am Ysgol Ramadeg Llandysul mewn ysgolion lle mae nifer sylweddol o’r disgyblion yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Ar y llaw arall, ceir ambell ysgol lle gwyddom y bydd unrhyw fyfyriwr o’r fan honno yn mynnu dilyn cymaint â phosibl o’r cwrs drwy’r Gymraeg. Gallwn enwi un ysgol yng Ngogledd Cymru lle mae’r pedwar myfyriwr sydd wedi dod atom i astudio Bioleg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bob un ohonynt nid yn unig wedi cofrestru i ddilyn pob modiwl sydd ar gael yn y Gymraeg, ond hefyd wedi mynnu eistedd pob arholiad, boed y modiwl yn cael ei ddysgu yn Gymraeg neu beidio, yn eu mamiaith. Beth yw’r rheswm am hyn? Athro neu athrawes frwdfrydig dros yr iaith? Cymuned Gymraeg a Chymreig ei natur? Mae yna bwnc astudiaeth ymchwil fan hyn. Hyd yn oed pe byddai pob un myfyriwr sy’n rhugl yn y Gymraeg yn cofrestru i ddilyn modiwl cyfrwng Cymraeg rhaid derbyn y ffaith, mewn nifer o ddisgyblaethau, bychan fyddai’r niferoedd. Mae yna enghreifftiau gennym o bob un sefydliad addysg uwch yng Nghymru lle mae’r niferoedd sydd eu hangen gan y Brifysgol - y trothwy economaidd fel petai – i fodiwl redeg yn uwch na’r ffigwr uchaf gall unrhyw fodiwl Cymraeg ei gyrraedd. Mae hynny’n wir amdanom ni yn Ysgol y Biowyddorau Caerdydd ond oherwydd cefnogaeth Pennaeth Ysgol ‘rwy’n cael dysgu dosbarthiadau llawer llai eu rhif na beth fyddai’n dderbyniol yn Saesneg. Gai’ch sicrhau chi mai prin iawn yw’r enghreifftiau o benaethiaid tebyg ar draws prifysgolion Cymru. Gan aros gyda’r gwyddorau. Saesneg yw iaith gwyddoniaeth. I ni ddarlithwyr sy’n ymchwilwyr cwyd hyn nifer o heriau. Mesurir ein cyfraniad ysgolheigaidd yn y gwyddorau trwy ein cyhoeddiadau; nodir ‘safon’ cyhoeddiad gwyddonol gan ‘fynegai dylanwad’ y cyfnodolyn y cyhoeddwn ynddo - yr ‘impact factor’ bondigrybwyll. Pennir ‘mynegai dylanwad’ gan y nifer o weithiau y mae erthygl mewn cyfnodolyn penodol yn cael ei chyfeirio ati gan wyddonwyr eraill mewn cyfnodolion eraill. Nid yw cyfnodolion academaidd Cymraeg hyd yn oed yn ymddangos yn nhablau ‘mynegai dylanwad’ gan mor brin yw’r cyfeiriadau a geir i unrhyw erthygl wyddonol sydd wedi ei hysgrifennu yn y Gymraeg. Pa wyddonydd sydd felly yn mynd i gyhoeddi ei wyddoniaeth mewn erthygl a chyhoeddiad na fydd yn derbyn unrhyw gydnabyddiaeth mewn proses dyrchafiad ac ati? Rhaid canu clodydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan iddo ddadlau yn ddygn, ac ennill, ar gyfer yr asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diwethaf bod Gwerddon yn cael ei gydnabod fel cyfnodolyn yr oedd yn dderbyniol cyflwyno erthyglau yn y gwyddorau ohono. Tasg fwy anodd yw darbwyllo penaethiaid adrannau a phrifysgolion bod hynny’n dderbyniol! Mae yna heriau mawr yn aros. Ond dyfal donc a dyr y garreg. Rwyf bellach wedi bod ym Mhrifysgol Caerdydd am bron ddeunaw mlynedd. Cyn hynny treuliais yr union nifer o flynyddoedd yn astudio a gweithio ym Mhrifysgol Llundain - yng Ngholeg y Brenin ac Imperial. Wrth benderfynu pa brifysgol i fynd iddi roeddwn wedi penderfynu fy mod - bachgen o gefn gwlad Sir Gâr - am brofi bywyd dinas. Bum mewn cyfweliadau yng Nghaerdydd a Llundain; nol yn 1979 nid oedd yna, yn fy marn i, fawr iawn o wahaniaeth ieithyddol rhwng y ddau leoliad. Roedd Caerdydd mor Seisnigaidd â Llundain. Mae’n stori wahanol iawn erbyn heddiw. Gydag Is-Ganghellor sy’n gefnogol iawn i’r Gymraeg mae yna newidiadau ar droed; derbyniwn neges fisol ganddo - yn ddwyieithog, â’r Gymraeg a’r Saesneg yn gyntaf am yn ail fis. Eleni, lansiwyd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, ac mae’r Gymdeithas Gymraeg a Chymdeithas Iolo yn blodeuo - o ran digwyddiadau ac aelodaeth. Heb amheuaeth mae bodolaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a phresenoldeb Cangen y Coleg, wedi sbarduno llawer o’r datblygiadau hyn. Yn yr un modd, y gobaith mawr yw y bydd sefydlu Cangen ddiweddaraf y Coleg Cymraeg, ym Mhrifysgol Glyndŵr, yn cynnig hwb i’r iaith Gymraeg yn y sefydliad addysg uwch hwnnw gan gynnig yno hefyd gyfle i fyfyrwyr a gweithlu ymhyfrydu a manteisio ar gyfleoedd y Gymraeg. Rydym wedi teithio siwrnai dda eisoes ond, heb unrhyw amheuaeth, mae ffordd bell i’w throedio eto cyn cyrraedd y nod o addysg ysgolheigaidd o’r radd flaenaf yn ein mamiaith i holl fyfyrwyr Cymru. Mae sefydliadau addysg uwch yn araf i newid, a phan fydd cyllidebau a thablau yn chwarae rhan mor bwysig prin fod dwyieithrwydd a llais y lleiafrif yn cael y sylw mwyaf mewn trafodaethau. Mae cael bod yn Ddeon y Coleg Cymraeg yn un, os nad y fraint fwyaf, sydd wedi dod ar fy nhraws. Mae’r blynyddoedd diwethaf hyn wedi bod yn rhai hynod o gyffrous. Maent wedi bod yn agoriad llygad - mewn ffyrdd cadarnhaol ac mewn modd llai felly. Bob blwyddyn byddaf yn ymweld â phob un o’r sefydliadau addysg uwch gan alw heibio ambell goleg addysg bellach hefyd - cyfeirir ati fel taith Y Deon! Mae gweld brwdfrydedd ein staff academaidd, sy’n aml yn wynebu ac yn gorfod ymateb i heriau nad yw eu cydweithwyr di-Gymraeg yn medru hyd yn oed eu hamgyffred, gweld y datblygiadau technolegol mewn addysgu cyfrwng Cymraeg, yr ymroi a’r dal-i-fyndrwydd yn cyffwrdd â dyn. Mewn dosbarthiadau o fyfyrwyr ymroddedig caf gyfle i brofi hyfforddiant a thrafodaeth mewn pynciau yn ymestyn o drafod ffiseg yr haul i oblygiadau Brexit i Gymru; o drafod effeithiau ecolegol rhoswydd i drafod a ydy Llyfr y Datguddiad yn gymorth neu’n rhwystr wrth feddwl am faterion ecolegol cyfoes; o gymryd rhan mewn Dosbarth Meistr mewn cyflwyno monolog i ymweld a gwneud astudiaeth fforensig yn y Tŷ Llofruddiaeth ym Mhrifygsol De Cymru; ac o fod yn dyst i enedigaeth llo yng Ngholeg Sir Gâr i gael fy addysgu am sut i fagu torllwyth o foch yng Nglynllifon … a’r cyfan yn Gymraeg. 3. Cinio Cronfa Glyndwr 24 Hydref 2015
Ein Cadeirydd, Gerald Latter, gyda’r gwestai arbennig, yr Athro Laura McAllister
CRYNODEB O ANERCHIAD YR ATHRO LAURA McALLISTER
3. Cinio Cronfa Glyndŵr 24 Hydref 2015
Yng nghinio dwy-flynyddol Cronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg yng Nghlwb Golff Radur ar 24 Hydref, cafodd cynulleidfa o yn agos i 100 ei gwefreiddio gan anerchiad ein gwestai, Yr Athro Laura Mc Allister. Prif swydd Laura yw Athro Llywodraethu ym Mhrifysgol Lerpwl, ond mae ganddi swydd amlwg hefyd fel Cadeirydd Chwaraeon Cymru. Defnyddiodd y ddwy rôl fel sail i neges hynod bwerus ac amserol. Bu Laura’n astudio gwleidyddiaeth Cymru am bron i ugain mlynedd ac mae ei gwaith ymchwil ar ddatganoli wedi ennill parch rhyngwladol. Bu hefyd yn cynrychioli ei glwad ar y llwyfan rhyngwladol fel aelod o dîm pêl-droed merched Cymru. Siaradai, felly, o brofiad, a thrwy addfwynder ei harddull, treiddiai awdurdod cadarn. Prif thema’r anerchiad oedd dyfodol Cymru o fewn ‘undeb’ y Deyrnas Unedig. Dywedodd Laura bod y sefyllfa wleidyddol ym Mhrydain wedi newid cymaint yn ddiweddar nes bod ‘ffurf’ yr undeb hwnnw yn ymddangos yn hen a hynod. Roedd yn pryderi bod “rhai pobl yn gwrthod cydnabod y realiti gwleidyddol newydd ac yn glynu wrth hen syniad o’r Undeb ble mae sofraniaeth seneddol yn oruchaf, y gwledydd i gyd yn israddol, a Lloegr a Phrydain yn gyfystyr â’i gilydd.” Ond os yw Cymru i gael ei chymryd o ddifri yn yr undeb newydd sy’n sicr o ddatblygu, mae angen i ni fel cenedl fod yn fwy unfrydol ynghylch yr hyn a ddymunwn ar gyfer dyfodol ein gwlad, yn fwy hyderus i arwain yn well, i fod yn fwy parod i herio a bod yn feirniadol – o eraill ac ohonon ni ein hunain, a hynny mewn modd adeiladol sy’n helpu, nid bychanu. Fel yn y byd chwaraeon, meddai, heb gystadlaethau rheolaidd ar lefel ryngwladol, a gwrthwynebwyr ar y lefel uchaf, ni fyddai ein hathletwyr wedi ennill yr hyder i lwyddo fel y maent. Mynnodd ein bod ni’n wynebu argyfwng real iawn o ran arweinyddiaeth yn gyffredinol yng Nghymru, ac un o’r problemau mwyaf yw tanddefnyddio merched mewn swyddi arwain. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi bod yn y maes yma, cyflwynodd rai ystadegau dadlennol:
”Mae hyn yn wastraffus,” meddai. “Os ydyn ni am fod yn gryfach, mae’n rhaid i ni ddefnyddio ein holl dalent yng Nghymru, nid rhan fechan ohoni. Mae’n rhaid i ni feithrin arweinyddiaeth gyhoeddus sy’n arloesol, yn uchelgeisiol ac yn rhagorol, yn seiliedig ar ddyhead, hyder ac ychydig bach o ddicter wedi’i sianelu’n gadarnhaol. Bydd hyn yn cynnwys gofyn rhai cwestiynau anodd ac anghyfforddus, a’r cyfan yn seiliedig ar her sylfaenol sydd, fel mae’n digwydd, yn ein hwynebu ni bob dydd yn y byd chwaraeon – pa mor barod ydyn ni yng Nghymru i fod y gorau? Rhoddodd Laura fanylion ynghylch sut mae Chwaraeon Cymru yn llwyddo i roi Cymru ar y blaen. “Rydyn ni’n defnyddio ein hadnoddau’n effeithlon ac yn fedrus i adnabod talent chwaraeon o’r oedran ieuengaf posib, a’i meithrin a darparu hyfforddiant … i wneud yn siŵr nad oes unrhyw gam gwag yn y gwaith o gynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o bencampwyr byd yng Nghymru.” Ond pwysleisiodd hefyd bod Cymru ar y blaen o ran cynyddu y nifer o bobl gyffredin sy’n cyfranogi mewn gweithgaredd corfforol, gan arwain at ffordd iachach o fyw. Does dim gofod yma i fanylu ar y rhesymau a roddodd i egluro hyn, ond un peth amlwg oedd bod Cymru wedi mentro datblygu polisi gwahanol i wledydd eraill Prydain, gan ymwneud fwyfwy â dulliau anffurfiol a llai ’traddodiadol’ o ddenu pobl i fwynhau gweithgaredd corfforol o bob math. Cafwyd ystadegau i ddangos bod athletwyr Cymru eisoes yn llwyddo ar lwyfan y BYD. Nid dim ond herio’r byd maen nhw wedi ei wneud, ond sicrhau buddugoliaethau, gan ddangos medrusrwydd a hunan-gred nodedig. Neges Laura oedd bod rhaid i ni ledaenu hynny ymhell y tu hwnt i’r byd chwaraeon. “Os ydyn ni am greu dyfodol gwahanol i Gymru, mae’n rhaid i ni i gyd osod nodau uwch ar gyfer y sefydliadau rydyn ni’n ymwneud â nhw, gan ymestyn ein gorwelion gwleidyddol a phersonol. Mae’n rhaid i ni feithrin dinasyddion uchelgeisiol, ysbrydoledig a hunanfeirniadol, yn ddynion a merched. Wedyn, efallai y cawn ni’r arweinyddiaeth y mae arnom ei hangen, a’r llwyddiant y mae ein cenedl dalentog yn ei haeddu yn y dyfodol.” I weld fersiwn cyflawn o anerchiad Laura McAllister cliciwch yma To read the English synopsis of the speech click here 4. CINIO CRONFA GLYNDŴR 12 HYDREF 2013
Yr Athro Richard Wyn Jones (chwith) a Gerald Latter, Cadeirydd y Gronfa, gyda Mrs Gwenda Williams, gweddw y diweddar Barchedig Ifan R Williams a oedd yn un o Lywyddion Anrhydeddus cyntaf y Gronfa
ARAITH YR ATHRO RICHARD WYN JONES Ar nos Sadwrn y 12fed o Hydref daeth cynulleidfa gref ynghyd yng Nghlwb Golff Radur i ddathlu hanner can mlwyddiant sefydlu Cronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg. Rhwystredigaeth ynghylch amharodrwydd yr Awdurdodau Addysg i ymateb i’r galw am addysg Gymraeg a barodd i Trefor a Gwyneth Morgan sefydlu’r gronfa ym 1963. Wrth gyflwyno’r gŵr gwadd, yr Athro Richard Wyn Jones, awgrymodd Cadeirydd y Gronfa, Gerald Latter, nad oedd pethau wedi newid rhyw lawer yn hynny o beth. Er bod elfen o wirionedd yn hynny, mynnodd yr Athro Richard Wyn Jones, bod llawer iawn wedi newid mewn gwirionedd. I weithgarededd Cymdeithas yr Iaith y mae llawer o hyn yn ddyledus, meddai, a dylem ymfalchïo o fod yn rhan o’r ymgyrch. Erbyn hyn mae agwedd pobl tuag at y Gymraeg dipyn yn iachach; fe’i gwelir yn gyffredinol fel rhywbeth gwerthfawr, yn destun balchder, gydag 80% o bobl Cymru am weld mwy yn cael ei wneud dros yr iaith. Mae’r twf mewn addysg Gymraeg yn ffenomen ryfeddol, meddai, a mwy o gyfle nag erioed i rieni fanteisio ar hynny. Er hynny, fel yr awgrymodd y Cadeirydd, mae digon o her ar ôl! Ond ar ben hynny, mae angen ymgyrch ehangach o blaid y Gymraeg Yn y cyswllt yma mae angen gofyn y cwestiwn pam y mae Cyngor Gwynedd yn llwyddo i warchod y Gymraeg yn fwy na Chaerfyrddin a Cheredigion! Her lawn mor ddifrifol â sicrhau’r ddarpariaeth, meddai Richard Wyn Jones, yw gwarchod safon yr iaith. Gwelir tystiolaeth o hyd ac o hyd bod yr iaith yn ‘breuo’, a mwy a mwy o eirfa Saesneg yn llithro i mewn i’r iaith lafar. Tra bod rhai yn cytuno â’r safbwynt ‘Gwell Cymraeg Slac na Saesneg slic’, i eraill mae’r dirywiad yn safon iaith llawer o’n pobl ifanc yn destun pryder. Un o’r heriau mwyaf yw’r newid technolegol sy’n digwydd ar hyn o bryd ym myd cyfathrebu. Mae yna beth darpariaeth Gymraeg ond mae’r bygythiad i’r iaith yn sylweddol. Fel enghraifft o hyn, soniodd Richard Wyn Jones am ei blant ei hun – sy’n byw yn Norwy ac yn siarad Norwyeg, Cymraeg a Saesneg – ond Saesneg yw iaith y gemau technolegol sydd ar gael iddynt yn Norwy, ac maen nhw mor boblogaidd, a’u dylanwad yn aruthrol. Er bod gyda ni le i werthfawrogi’r datblygiadau a fu yn y blynyddoedd diwethaf, dywedodd Richard Wyn Jones bod perygl mewn sentimentaleiddio – rhaid gofyn cwestiynau caled – pa mor effeithiol yw’r mudiad wedi bod mewn gwirionedd? Yn wyneb yr her sy’n parhau, mae’n ddyletswydd pwyso a mesur, a gofyn beth yw ein nod ar gyfer y dyfodol. Mae perygl i ni gario ymlaen â’r pethau cyfarwydd – am eu bod yn gyfarwydd! Ar nodyn mwy cadarnhaol, mae consensws gwleidyddol cryf, erbyn hyn, o blaid Cymru ddwyieithog – agwedd sy wedi llamu ymlaen ers pleidlais 1979 ar ddatganoli. Y newid mwyaf a ddigwyddodd yn ystod yr hanner canrif diwethaf yw twf democratiaeth Gymreig. Hanner can mlynedd yn ôl doedd gyda ni ddim Swyddfa Gymreig; heddiw mae gyda ni Gynulliad, a Llywodraeth Cymru. Ond mae yma eironi mawr! Tra bod Cymry Cymraeg wedi chwarae rhan ganolog yn yr ymgyrch i sicrhau y sefydliadau a’r hawliau hyn, y ffaith yw nad ydyn ni wedi eu defnyddio – a gellir ystyried hyn yn fethiant mawr. Er enghraifft, fe enillwyd Deddf Iaith – ond beth am y cynnwys? Yr hyn sy gyda ni yw deddf gymhleth ac aneffeithiol! Mae gormod o benderfyniadau ad hoc yn cael eu gwneud. Yr hyn sydd ei angen nawr yw difrifoli – ystyried a chynllunio sut y gallwn ni ddefnyddio y sefydliadau y’n ni wedi eu creu. Mae ‘lobïo’ wedi dod yn elfen bwysig mewn gwleidyddiaeth. Mae’n digwydd ym myd addysg, iechyd, cynllunio – pob math o feysydd. Ond o fewn y meysydd hyn mae angen lobïo ar ran y Gymraeg! Rhaid manteisio ar dwf democratiaeth – er budd y Gymraeg. Yn hyn o beth bu sefydlu ‘Dyfodol’ yn ddiweddar yn gam pwysig ymlaen. Ond mae angen rhagor o adnoddau dynol er mwyn ymgyrchu – ac mae gan y to hŷn gyfraniad pwysig i’w wneud. “Rhaid i ni stopio beio pobl eraill,” meddai. “Os na fynnwn ni’r gwasanaethau yn Gymraeg – a’u defnyddio, ein bai ni fydd e os mai diflannu wnân nhw!” |
Enghreifftiau
Enghraifft o bamffled cyhoeddwyd gan Mudiad ysgolion Meithryn /Menter Iaith Rhondda Cynon Taff,c gyda help ariannol Cronfa Glyndwr o £1000
Your browser does not support viewing this document. Click here to download the document.
Dyma daflen newydd Cronfa Glyndwr
Your browser does not support viewing this document. Click here to download the document.
|
5. Erthygl I Ninnau - Papur Bro Cymry Gogledd America
Gan Bryan James Hydref 2014 (cyhoeddwyd yn rhifyn Mawrth 2015)
50 years on – and still the battle continues!
Background
When the official channels of government ignore the just and reasonable wishes of the people, what can you do? Well, in the early 1400s, Owain Glyndŵr went to battle! In the early 1960s the battle was of a different nature. There was a growing demand throughout Wales for increased provision of education through the medium of Welsh – but the Local Education Authorities (LEAs) were reticent or dismissive in their response.
Out of pure frustration, in 1963, Cronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg (The Glyndŵr Trust for Welsh Schools – and the name is significant) was set up with the specific aim of promoting and facilitating the establishment of Welsh-medium schools. The Trust was the brainchild of Trefor Morgan, a successful entrepreneur in the Insurance Industry, and his educationalist wife, Gwyneth.
One of the Trust’s first projects was the establishment of a Welsh-medium secondary boarding school at Bridgend, some twenty miles west of Cardiff. This was a very new concept for Welsh-medium education! But, as it was beginning to gain acceptance, Trefor Morgan sadly died at the untimely age of 56, the funds dried up and the establishment had to close.
However, the Trust then channelled its energy and funds into helping groups of parents to pressurise the LEAs into providing the education they were demanding for their children. The Trust doesn’t claim to be solely responsible for the phenomenal growth in the provision of Welsh-medium education since those early days, but its contribution has been significant.
The current situation
At a fund-raising dinner on 12 October 2013 to mark the Trust’s fiftieth anniversary, the guest speaker was Professor Richard Wyn Jones, Director of the Wales Governance Centre at Cardiff University. In a powerful message he said that since the ‘No’ vote in the Referendum on Welsh Devolution in 1979, there had been a sea-change in the public attitude towards the Welsh language, with more than 80% now in favour of more being done to safeguard its future.
This is certainly reflected in the explosion in parental demand for Welsh-medium education in the last twenty years, especially in the more anglicised parts of Wales – the Northeast and the Southeast – areas where there is a ‘lost generation’ of Welsh speakers. Some of the LEAs are responding, albeit reluctantly, and several primary and secondary schools have been opened – but still the supply falls way below demand, and parents in all parts of the country still have to ‘do battle’ with the authorities. Early in 2014 the Welsh Government demanded that each LEA produced an official Strategic Plan for Welsh-medium Education. All these plans have been approved by the Government and are now in place. This is a significant step forward – but it remains to be seen how well they are implemented in the next few years!
The 2011 Census figures show that only 19% of the country’s population are able to speak Welsh – down 2% on the figures of 2001. This has sparked a Welsh Government-backed National Debate on the future of the Welsh language. Economic and social factors – employment, housing and population movement – are now acknowledged as being of vital importance to the survival of Welsh-speaking communities. However, one interesting and encouraging statistic is that of the 19% who are Welsh speakers, 30% are aged between 3 and 15! This would indicate that education has a vital role to play in future plans for the language – and this is why we believe that Cronfa Glyndŵr’s contribution is important.
There are other organisations working towards the same end, notably Mudiad Meithrin (Nursery Movement) and Rhieni Dros Addysg Gymraeg (Parents for Welsh-medium Education). Cronfa Glyndŵr works closely with these bodies to decide where to make donations.
Since 2012 a sum of more than £10,000 has been distributed to various recipients, with donations ranging from £150 to small nursery groups to help buy essential resources, to £900 towards marketing projects to promote Welsh-medium education in certain areas. Individual donations may be small but they are much appreciated and reports show that they do ‘make a difference’ – which is our motto.
More information about our activities is available on our website, www.cronfaglyndwr.cymru
Funds
The Trust is a registered charity and the original Trust fund, augmented by later donations and bequests, has been carefully invested in Stocks and Shares so as to yield an annual income. We also receive gifts and donations amounting to around £2,000 per annum. We try to ‘live within our means’ without delving too much into our ‘capital reserves’, but this is becoming more difficult as the country’s general economic situation is tightening.
Any donations are greatly appreciated and can be made via bank transactions using the following information.
Name of Charity: Cronfa Glyndwr yr Ysgolion Cymraeg
Name of recipient bank: Swansea Building Society:
IBAN: GB84 BARC 2084 4103 9568 73
Swift Code: BARCGB22
Reference: 32013079002
Diolch yn fawr am eich diddordeb yng ngwaith Cronfa Glyndŵr.
Mae sefyllfa addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn sicr wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond mae’r hen ddihareb yn dal yn wir: ‘Nid da lle gellir gwell’. Rhaid dal ati i frwydro am ein hawliau, ac mae’n rhoi boddhad i ni feddwl bod ein cyfraniad at yr achos yn ‘gwneud gwahaniaeth’

6. Engraifft o Boster Marchnata Rhydygrug
7. Sylwadau’r Gronfa ar ddogfen ymgynghorol Llywodraeth Cymru: Rheoliadau drafft Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2013 (cliciwch yma)