CronfaGlyndŵr.cymru (yn hyrwyddo addysg gymraeg)

  • Cinio y Gronfa 2022
  • Croeso i’r Gronfa
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Gwneud cais
  • Gwaith y Gronfa
  • English / About us
    • Fundraising Dinner 2022
    • Welcome/ Croeso
    • Frequently Asked Questions
    • How to apply
    • How can I help? / How are we funded?
    • Trustees
    • Work of Cronfa Glyndwr
    • Events
  • Sut gallaf i helpu / O ble daw'r arian?
  • Ymddiriedolwyr
  • Cylchlythyr
  • Digwyddiadau /Newyddion
  • Preifatrwydd / Privacy

Gwaith y Gronfa

Rhif Cofrestri Elusen 525762

​Dyma fap a gwybodaeth ychwanegol o'r holl grantiau sydd wedi ei ddosbarthu gan Gronfa Glyndwr rhwng 2011 a Rhagfyr 2020
Picture

Grantiau 2022

Ysgol Feithrin Stryd y Bont, Llangefni Adnoddau £500
CM Talwrn, Llangefni Adnoddau £300
CM Pum Heol, Llanelli Marchnata £300
CM Edern, Pwllheli Adnoddau £300
Ysgol Gynradd Cerrigydrudion Teithio £200 (diddymwyd yn hwyrach)
CM Rhuthun Marchnata £320
CM Eco Tywi Adnoddau a Marchnata £500
CM Pentrecelyn Marchnata £400
CM Borras, Wrecsam Marchnata £500
Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd y Grug Marchnata £320
CM Pentreuchaf Adnoddau £300
CM Cilfynydd/Pontsionnorton Adnoddau £354
CM Llangeitho Adnoddau £165
CM Llanelwy Marchnata £375
CM Machynlleth Adnoddau £150
Menter Iaith Conwy Marchnata £800
CM Eco Tywi Adnoddau £250
Ysgol Gyfun Dyffryn Conwy Marchnata £500
CM Dyffryn Banw Adnoddau £300
CM Y Garth Adnoddau a Marchnata £400 (*talwyd yn 2023)
Ysgol Gynradd Pen Barras Adnoddau £400



Grantiau 2021

CM Rhuthun      £500                                           
CM Llangoed    £400                               
CM Trefynwy  £400                                                                   MM Caerffili £500  
Gwyl Hanes Cymru Caerfyrddin    £200  
​Ysgol Gyfun Plasmawr     £300                                                 Ysgol Gyfun Gwynllyw   £800                                                    CM Lle Chi, Blaenau Ffestiniog £503                                       RhAG Casnewydd    £650   

​                                                                                              

Grantiau 2020

​​​CM Amlwch - £200
CM Yr Wyddgrug - £145.20
CM Llangyndeyrn - £500
Cylch Ti a Fi Treganna - £120
CM Y Bontfaen - £150
Gwydir,Llanrwst, Conwy - £400
CM Bethel, Penarth - £350
CM Pwllcoch, Caerdydd - £600
Menter Iaith Conwy - £900
CM Llanelwy, Dinbych - £445
CM Rhuthun, Dinbych - £500
CM Llangoed, Ynys Môn - £400
 YGG Y Ferch o’r Sgêr, Corneli - £500
 CM Tonyfelin, Caerffili - £641
Gŵyl Hanes Cymru, Caerfyrddin - £175
Amlwch Pre-School Playgroup, Ynys Môn - £50
Ysgol Dyffryn Trannon, Caersws - £400
CM Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl - £400
CM Dolwerdd, Cwmbran - £460
Ysgol Llannefydd, Conwy - £300
​Ysgol Bro Gwydir Llanrwst £400
​

Picture
Dyma rhai o luniau projectau mae y Gronfa wedi ymwneud a nhw
.
Llyfryn Hybu Addysg Gymraeg - ‘Addysg Gymraeg - Y Gorau o ddau fyd’

​https://drive.google.com/file/d/1cCogKj9i2m3BDlt4by97g3Hz8HRheFql/view?usp=sharing
Picture
Canllaw Gwaith Cartref Cyngor Sir Gaerfyrddin
Dyma Linc i'r wefan
 Llyfryn Canllaw Gwaith Cartref  ​https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/addysg-ac-ysgolion/addysg-ddwyieithog/#.X09KG3dFzIU
Picture

GRANTIAU YN GWNEUD GWAHANIAETH

Cylch Meithrin Pentrecelyn
 Diolch i grant gan Gronfa Glyndŵr, cawson noson agored i rieni ac roedd modd hysbysebu trwy’r pamffledi, posteri a Facebook boost.
O ganlyniad I’r hysbeysebu, cawson ni dri phlentyn newydd yn y Cylch efo’r rhieni’n dweud eu bod wedi gweld y faner neu’r post ar Facebook.



Cylch Meithrin Edern
Mae’r grant yma wedi gwneud bydd o wahaniaeth i’n cylch bach ni. Rydym yn ddiolchgar o’r gefnogaeth ac mae wedi sicrhau ein bod yn gallu prynu adnoddau newydd o safon sy’n addas ar gyfer plant rhwng 2 a 4 oed.
Dyma rai o’r plant yn mwynhau eu hadnoddau newydd.

Picture
GRANTIAU YN GWNEUD GWAHANIAETH
Ysgol Gyfun Gwynllyw

“Defnyddiwyd yr adnoddau a brynwyd o grant Cronfa Glyndwr i farchnata'r ysgol yn y gymuned leol. Dosbarthwyd y pamffledi yn yr ardal leol. Gosodwyd y baneri PVC mawr o flaen yr ysgol i wneud yn siŵr bod y bobl leol a gerddodd heibio yn gwybod ein bod yn agor fel ysgol newydd i bob oed.
I ddechrau roedd yr ysgol wedi derbyn 11 cais gan blant oed meithrin a chynradd i ymuno ym Medi 2022. Yn dilyn ein prosesau marchnata mae 23 disgybl gyda ni erbyn nawr, gyda 7 newydd yn ymuno yn Ionawr a fydd yn cymryd niferoedd I 30. Yn ogystal, mae bron pob rhiant newydd wedi dangos diddordeb mewn dysgu Cymraeg er mwyn gallu helpu eu plant.”


Cylch Meithrin Ysgol Dewi Sant
“Mae Cylch Meithrin Ysgol Dewi Sant eisiau diolch i Cronfa Glyndŵr am y grant o £400 tuag at hyrwyddo ein gwasanaeth.
Mae’r grant wedi ein galluogi ni i gynhyrchu taflenni, hysbysebion Facebook ac archebu banneri.
Mae’r ymgyrch marchnata wedi bod yn llwyddianus ac erbyn heddiw mae gennym 40 o blant bach rhwng 2 a 4 oed ar ein cofrestr ac rydym ond wedi bod ar agor ers Medi 2020.
Rydym wedi derbyn nifer o geisiadau yn uniongyrchol o’r ymgyrch marchnata, sydd yn dilyn i argymhellion gan gwsmeriaid, ac ynghyd a lleoliad newydd y Cylch, mae hyn wedi denu cynnydd o oddeutu 80% yn ymholiadau am ein gwasanaeth.
Rydym wedi gosod erthygl yn ein Papur Bro leol – Y Glannau - i hyrwyddo’r Cylch a Gwaith Cronfa Glyndŵr.
Diolch eto am eich cefnogaeth, rydym yn ddiolchgar iawn.”


Cylch Meithrin Trelech
“Ers i ni fod yn llwyddiannus wrth ymgeisio am y grant a gallu prynu’r adnoddau a gwneud y gwaith marchnata, rydym wedi medru denu chwech o blant newydd i’r Cylch sy’n gynnydd da mewn ardal mor wledig. Mae 11 plentyn wedi parhau yn gyson ar ein llyfrau ac rydym yn anelu at gynyddu’r nifer eleni eto, wrth ddefnyddio’r adnoddau pan fydd teuluoedd newydd yn symud i’r ardal. Mae’n ddiddorol nodi ein bod wedi gweld nifer o deuluoedd yn symud i’r ardal yn ystod cyfnod y pandemig, gyda nifer ohonynt yn bobl ifanc cynhenid sydd wedi symud yn ôl ac yn gefnogol iawn i’r Cylch ac i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Er hynny, mae teuluoedd di-Gymraeg wedi symud hefyd ac rydym yn sicrhau fod pawb yn derbyn taflen groeso wrth y Cylch.”


Cylch Meithrin Llanfair Caereinion
“Mae’r deunyddiau newydd yn cael eu defnyddio yn ddyddiol gan y plant sy’n mynychu’r Cylch ac maent wrth eu bodd gyda nhw. Mae’r deunyddiau mwy addysgiadol megis pecynnau i ddysgu ysgrifennu llythrennau’r wyddor yn cael eu defnyddio yn sesiwn bore pan fydd y plant 3 oed a hŷn yn y cylch a’r jig-sô’s a DVD’s a’r llyfrau yn cael eu defnyddio yn y prynhawn hefyd pan fydd plant 2 oed a hŷn yn gallu mynychu. Mae digon o ddeunyddiau a theganau yn y cylch rwan fel bod modd newid y llyfrau yn wythnosol a’r plant ddim yn diflasu ar yr un rhai bob tro. Cawson arolygiad Estyn yn ddiweddar ac roedd yr adborth am yr adnoddau a llyfrau sydd ar gael yn y cylch yn bositif.
Unwaith eto, diolch o galon am y grant yma gan Gronfa Glyndwr, mae wedi cael effaith bositif iawn ar ddatblygiad plant bach Cylch Meithrin Llanfair Caereinion.“

Cylch Meithrin Cerrigydrudion
“Defnyddiwyd yr arian grant i brynu adnoddau hanfodol megis paent, glud, papur, llyfrau lloffion ar gyfer gweithgareddau celf wythnosol, costau printio, adnoddau chwarae (anifeiliaid yr arctig, jyngla deinosoriaid, llestri te adnabod lliwiau ayyb), prynu llyfrau a gwella yr ardal ddarllen ac adnoddau addysgol.
Yn ogystal a gweithgareddau codi arian y Cylch, bu’r grant gan Gronfa Glyndwr o gymorth mawr ini tra’n mynd trwy’r cyfnod anodd yma. Rydym yn falch iawn o fedru datgan bod y Cylch yn mynd o nerth i nerth gyda criw gwych o blant yn mynychu ac yn parhau i gyflogi 3 aelod o staff. Bellach mae’r criw oedd yn 2 a hanner i 3 oed llynedd yn medru elwa o Gynllun Gofal 30 awr sydd o gymorth mawr i sicrhau bod y Cylch yn gynaliadwy. Mae’r adnoddau brynwyd gyda’r arian grant wedi llwyddo i roi y cyfleoedd gorau i blant yr ardal ddatblygu drwy chwarae a chymdeithasu yn yr iaith Gymraeg. Diolch o galon i’r Gronfa am y gefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd llynedd.”

Cylch Meithrin Clocaenog
“We are pleased to say that the grant of £300 received by Cylch Meithrin Clocaenog has been key in the development and growth of cylch meithrin clocaenog over the past 12 months. The essential supplies we purchased enabled us to provide education through the medium of Welsh, which is of a high standard, flexible and affordable to parents and guardians. The financial support we receive from Cronfa Glyndwr was used for the benefit of the children to enhance their education so that they may reach their full potential. We are pleased to say that we have increased our numbers of children/families using Cylch Clocaenog over the past 12 months as we started with around 9 or 10 children using the service and we currently have 14 children plus several more enquiries from other families who are interested in their children attending Cylch Clocaenog after Easter. This is amazing news and means we have seen at least 40% increase in numbers and income we receive. As a committee we would like to thank Cronfa Glyndwr for the financial support, we are very pleased with the growth and quality of care/education we were able to offer. We hope Cronfa Glyndwr are also satisfied by the difference made and thank you for your support.”

Ysgol Pen Barras, Rhuthun
“Hoffwn ddiolch o galon i chi am y grant dderbyniwyd gennych tuag at dŷ bach twt y babanod. Amgaeaf luniau o’r tai bach twt ar waith gyda’r plant wedi gwisgo i fyny yn yr ardal chwarae rôl. Mae nhw’n adnodd hynod o werthfawr i ni fel ysgol.”
Cylch Meithrin Cynwyd
“Llynedd, derbyniodd Cylch Meithrin Cynwyd grant o £400 ganddoch i brynu byrddau a chadeiriau newydd ar gyfer ein lleoliad newydd. Hoffwn adrodd yn ôl atoch am y datblygiadau sydd wedi bod o fewn y Cylch dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ers derbyn eich grant a newid lleoliad y Cylch Meithrin, rydym wedi mynd o nerth i nerth. Erbyn hyn, rydym yn cynnig gofal yn ddyddiol rhwng 08:00 – 18:00 i blant rhwng 2-12 mlwydd oed. Rydym wedi sefydlu clwb ar ôl ysgol yn ogystal â chlwb brecwast, a mae ein sesiynau canol wythnos yn boblogaidd gyda thri o’r pum niwrnod yn llawn yn wythnosol.
Carwn ddiolch i chi eto am eich cyfraniad hael tuag at ein prosiect – mae’r byrddau a chadeiriau a brynwyd gyda’r arian yn cael eu defnyddio yn ddyddiol gan y plant.”

Gŵyl Hanes Cymru i Blant
“Roedd y grant yn gyfraniad tuag at gynhyrchu sioe newydd a gafodd ei llwyfannu am wythnos gyfan yn Amgueddfa Wlan Cymru yn Drefach Felindre, fel rhan o Gŵyl Hanes Cymru I Blant 2018. Roedd sgript eisoes wedi’i gyflwyno fel rhan o gynllun datblygu awduron ifanc, ac felly roedd angen i’r ŵyl ddod o hyd i tua £4,000 i gynhyrchu’r sioe. Cafwyd cymorth mewn da gan Theatr Genedlaethol Cymru I gyfarwyddo’r sioe, a cafwyd grant o £1,500 hefyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin i ariannu’r actor am y cyfnod ymarfer ynghyd ag archebu props. Cafwyd £200 gan gwmni Castell Howell, a defnyddiwyd yr arian hwnnw ynghyd â grant Cronfa Glyndŵr i gomisiynu creu gwisg arbennig i Arglwydes Llanofer – gwisg Gymreig ysblennydd o frethyn a brynwyd o’r amgueddfa.
Yn ystod yr wythnos o berfformiadau, daeth 10 o ysgolion yr ardal i’r amgueddfa i weld y sioe - tua 400 o blant.
Mae’r ŵyl wedi elwa o’r grant, gan fod gennym sioe fydd ar gael i’r ŵyl am flynyddoedd eto i ddod, gan addysgu cenedlaethu o blant, a’r bwriad fydd atgyfodi’r sioe yn flynyddol, i’w pherfformio yn yr amgueddfa wlân yn Nrefach Felindre ynghyd â lleoliadau perthnasol eraill ar hyd a lled Cymru.”


ADRODDIAD BLYNYDDOL ar weithgareddau 2022
1. Cyflwyniad
Yn dilyn blwyddyn heriol 2021, bu 2022 yn flwyddyn lwyddiannus i’r Gronfa er i gyfarfodydd yr ymddiriedolwyr (5 ohonynt) barhau trwy gyfrwng Zoom. Penderfynodd Dafydd Hampson-Jones ymddeol fel Trysorydd, wedi chwe blynedd, tra’n cytuno i barhau fel ymddiriedolwr ac i gadw golwg ar fuddsoddiadau’r Gronfa. Croesawyd Heledd Jones fel ymddiriedolwr ac fe’i penodwyd yn Drysorydd yn ei le. Croesawyd Elin Maher, Cyfarwyddwraig Cenedlaethol RhAG i’n cyfarfodydd.
Derbyniwyd mwy o geisiadau ac roedd cyfanswm y grantiau a ddyfarnwyd yn fwy nag erioed o’r blaen. Cynhaliwyd Cinio llwyddiannus gyda’r Athro Mererid Hopwood yn westai.
Er mwyn hybu gweithgarwch y Gronfa, cysylltwyd â chylchoedd meithrin ac ysgolion cynradd Cymraeg newydd, y consortia addysg rhanbarthol a rhwydweithiau’r llywodraethwyr. Paratowyd fideo’r Gronfa, yn y Gymraeg a’r Saesneg, a’i osod ar ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol a chyflwynwyd newidiadau i’r wefan.


2. Ceisiadau
Rhoddwyd ystyriaeth i 30 cais yn ystod y flwyddyn. Gwrthodwyd pedwar cais a thynnwyd pum cais yn ôl. Bu’r canlynol yn llwyddiannus:


Ysgol Feithrin Stryd y Bont, Llangefni Adnoddau £500
CM Talwrn, Llangefni Adnoddau £300
CM Pum Heol, Llanelli Marchnata £300
CM Edern, Pwllheli Adnoddau £300
Ysgol Gynradd Cerrigydrudion Teithio £200 (diddymwyd yn hwyrach)
CM Rhuthun Marchnata £320
CM Eco Tywi Adnoddau a Marchnata £500
CM Pentrecelyn Marchnata £400
CM Borras, Wrecsam Marchnata £500
Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd y Grug Marchnata £320
CM Pentreuchaf Adnoddau £300
CM Cilfynydd/Pontsionnorton Adnoddau £354
CM Llangeitho Adnoddau £165
CM Llanelwy Marchnata £375
CM Machynlleth Adnoddau £150
Menter Iaith Conwy Marchnata £800
CM Eco Tywi Adnoddau £250
Ysgol Gyfun Dyffryn Conwy Marchnata £500
CM Dyffryn Banw Adnoddau £300
CM Y Garth Adnoddau a Marchnata £400 (*talwyd yn 2023)
Ysgol Gynradd Pen Barras Adnoddau £400


Cyfanswm y grantiau a ddyfarnwyd oedd £7,434 (2021 - £4,253). Derbyniwyd pedwar cais arall a gafodd eu hystyried ym mis Ionawr 2023.
Mae’n amod bod y sefydliad sy’n derbyn grant yn darparu adroddiad i’w papur bro lleol yn cyfeirio at gyfraniad y Gronfa . Hefyd, derbynnir adroddiad, wedi blwyddyn, ynghylch effeithiau’r grant. Mae’r adroddiadau a dderbynnir yn galonogol iawn (gweler ein gwefan) ac yn cadarnhau bod y Gronfa yn llwyddo i ‘wneud gwahaniaeth’.


3. Cyfraniadau
Yn sgil Apêl y flwyddyn cynt, derbyniwyd cyfraniadau rheolaidd o £8,510 (2021 - £6,160) a chyfraniadau unigol o £7,760 (2021 - £14,725) gan gynnwys cyfraniadau o £1,500.60 (yn cynnwys £384 yn 2023) er cof am Branwen Mathias. Derbyniwyd £4,247 (2021 - £3,455) trwy drefniant Rhodd Cymorth. Yn ogystal, gwnaethpwyd elw o £986 ar y Cinio.
Mae’r ymddiriedolwyr yn hynod o ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at y Gronfa ac i bawb a gefnogodd y Cinio. Diolchwyd i Hefin a Catrin Mathias am y cyfraniadau er cof am eu merch, Branwen.


4. Cysylltiadau eraill
Mynychwyd Cyfarfod Blynyddol RhAG a Chyfarfod Blynyddol y Comisiwn Elusennau a derbyniwyd bwletinau Dyfodol.

1  ADRODDIAD BLYNYDDOL ar weithgareddau 2021
  1. Cyflwyniad
Oherwydd Covid, bu 2021 yn flwyddyn heriol i’r Gronfa. Ni fu’n bosib i’r ymddiriedolwyr gynnal eu cyfarfodydd arferol a bu’n rhaid cynnal pob cyfarfod (6 ohonynt) trwy gyfrwng Zoom.
Croesawyd dau o ymddiriedolwyr newydd i’r Gronfa, sef, Nona Gruffudd-Evans a Dr Dafydd Trystan Davies.
Penderfynodd Catrin Stevens ymddiswyddo fel Cadeirydd (yn dilyn pum mlynedd yn y swydd) a phenodwyd Helen Prosser yn Gadeirydd yn ei  lle. Yn dilyn hynny, penodwyd Catrin  yn Ysgrifennydd Cofnodion yn lle Helen.
Datblygiad mwyaf arwyddocaol y flwyddyn oedd Apêl Ariannol ein Llywydd Anrhydeddus, Cennard Davies, a lansiwyd am fod rhoddion y flwyddyn cynt yn llai na chyfanswm y grantiau a ddyfarnwyd y flwyddyn honno. Ond, yn eironig, oherwydd y pandemig, derbyniwyd llai o geisiadau yn ystod y flwyddyn. Serch hynny, mae arwyddion pendant y bydd y Gronfa yn derbyn llawer mwy o geisiadau yn ystod 2022.
Oherwydd y pandemig, bu’n rhaid gohirio’r Ginio a oedd  i’w chynnal ym mis Hydref. Fe’i cynhelir eleni, ar 15 Hydref, yng Nghlwb Golff Radur. Y gwestai fydd yr Athro Mererid Hopwood.


  1.   Ceisiadau
Rhoddwyd ystyriaeth i 14 cais yn ystod y flwyddyn. Gwrthodwyd dau gais, tynnwyd dau gais yn ôl a diystyriwyd un cais oherwydd diffyg gwybodaeth. Bu’r canlynol yn llwyddiannus:
 
​CM Rhuthun                                                      £500                           Adnoddau
CM Llangoed                                                     £400                             Marchnata ac Adnoddau
CM Trefynwy                                                     £400                           Marchnata
MM Caerffili                                                       £500                           Marchnata
Gŵyl Hanes Cymru, Caerfyrddin                       £200                           Sioe Hanes Cymru
Ysgol Gyfun Plasmawr                                      £300                           Adnoddau
Ysgol Gyfun Gwynllyw                                       £800                           Marchnata
CM Lle Chi, Blaenau Ffestiniog                         £503                           Marchnata ac Adnoddau
RhAG Casnewydd                                             £650                           Marchnata


Cyfanswm y grantiau a ddyfarnwyd oedd  £4,253  (2020 - £6,736.20). 
Derbyniwyd pedwar cais arall a gafodd eu hystyried ym mis Ionawr 2022.
Mae’n amod bod y sefydliad sy’n derbyn grant yn darparu adroddiad i’w papur bro lleol yn cyfeirio at gyfraniad y Gronfa . Hefyd, derbynnir adroddiad, wedi blwyddyn, ynghylch effeithiau’r grant. Mae’r adroddiadau a dderbynnir yn galonogol iawn (gweler ein gwefan) ac yn cadarnhau bod y Gronfa yn llwyddo i ‘wneud gwahaniaeth’. Dyma linc i fideo “Beth yw Cylch Meithrin” a gynhyrchwyd gan Fudiad Meithrin Caerffili -  https://youtu.be/RLzC6v_zmaE 


  1. Cyfraniadau a’r Apêl
Gyda’r  Apêl, llwyddwyd i gynyddu’r cyfraniadau  rheolaidd i £6,160 (2020 - £2,500) a’r cyfraniadau unigol i £14,725 (2020 - £2,375). Yn ogystal, derbyniwyd £3,454.75  trwy drefniant Rhodd Cymorth. Mae’r ymddiriedolwyr yn hynod o ddiolchgar i bawb sy’n cyfrannu at y Gronfa ac i bawb a ymatebodd mor gadarnhaol  i’r Apêl.

  1. Cysylltiadau eraill
Cynhaliwyd cyfarfodydd a Chyfarwyddwraig Mudiad Meithrin  a Swyddogion Cefnogi’r Mudiad i annog ceisiadau i’r Gronfa ac am fanylion cylchoedd newydd y mudiad. Gofynnwyd i RhAG am fanylion ysgolion Cymraeg newydd ac ysgolion sy’n ehangu. Crewyd fideo fer, yn egluro nodau’r Gronfa, i’w roi ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Adnewyddir ein gwefan a Facebook gyda’r newyddion diweddara’.
Ymatebwyd i’r Ymgynghoriad ar Ddyfodol Cymwysterau TGAU yng Nghymru i gydfynd â’r Cwricwlwm Newydd. Mynychwyd Cyfarfod Blynyddol RhAG, derbyniwyd bwletinau Dyfodol a chwblhawyd holiadur Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

​
Proudly powered by Weebly