CROESO – Mae’r Ceisiadau ar Agor yn awr
Croeso i chi wneud cais
"Bydd yr ymddiriedolwyr yn ystyried ceisiadau newydd yn eu cyfarfod nesaf ar 16eg o Fawrth 2023. Ar gyfer y cyfarfod hwnnw, felly, dylid sicrhau bod y cais yn cyrraedd erbyn yr 2il o Fawrth 2023"
Sut i wneud cais Gwahoddir ceisiadau ar ffurf llythyr neu, gorau oll, e-bost. Anfonwch eich cais at: Wyn Rees: Ysgrifennydd Cyffredinol Cronfa Glyndŵr, Llys y Coed, Heol Pantygored, Pentyrch, Caerdydd, CF15 9NE llysycoed@btinternet.com Dylech gynnwys y wybodaeth isod. Adran 1 Enw a swyddogaeth y person sy’n gwneud y cais: Enw’r Ysgol / Cylch / Grŵp: Cyfeiriad llawn, yn cynnwys y côd post: Rhif ffôn ac e-bost: Yr enw ar gyfer unrhyw siec: Adran 2 Nodwch yr union swm y gofynnwch amdano, gan egluro nod a phwrpas y cais. Sut bydd derbyn arian o’r Gronfa yn gwneud gwahaniaeth? Dylech gynnwys amcangyfrifon a dyfynbrisiau (lle bo hynny’n briodol) o gostau’r prosiect. Pa gyfraniadau ariannol a wneir gan yr Ysgol / Cylch / Grŵp ei hun, a/neu gan eraill, tuag at y prosiect a sut y bwriedir sicrhau’r cyfraniadau hynny? Yng nghyswllt cais gan Gylch neu Grŵp, dylech gynnwys yr Adroddiad Ariannol Blynyddol diweddaraf ynghyd ag adroddiadau banc am y tri mis diweddaraf. Pryd a sut y bwriedir gweithredu’r prosiect? Os hoffech gael mwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â’r Ysgrifennydd Cyffredinol ar 02920 890571neu e-bost llysycoed@btinternet.com Gyda llaw beth am wneud cais i’r Loteri Genedlaethol hefyd am arian. Cysylltwch yma |