CronfaGlyndŵr.cymru (yn hyrwyddo addysg gymraeg)

  • Cinio y Gronfa 2022
  • Croeso i’r Gronfa
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Gwneud cais
  • Gwaith y Gronfa
  • English / About us
    • Fundraising Dinner 2022
    • Welcome/ Croeso
    • Frequently Asked Questions
    • How to apply
    • How can I help? / How are we funded?
    • Trustees
    • Work of Cronfa Glyndwr
    • Events
  • Sut gallaf i helpu / O ble daw'r arian?
  • Ymddiriedolwyr
  • Cylchlythyr
  • Digwyddiadau /Newyddion
  • Preifatrwydd / Privacy
Picture

Cwestiynau Cyffredin


Amdanon ni

 Pwy neu beth yw Cronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg?
Cronfa elusennol a sefydlwyd gan Trefor a Gwyneth Morgan, yn 1963, er mwyn hyrwyddo addysg Gymraeg yw Cronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg.

Beth yw nôd y Gronfa?
Ein nod yw gwneud gwahaniaeth ac i hybu addysg Gymraeg neu wella’r profiad i blant a phobl ifanc sydd yn derbyn addysg Gymraeg.

Sut gall y Gronfa wneud gwahaniaeth?
Mae'r Gronfa yn gallu helpu trwy roi grantiau i ysgolion, cylchoedd meithrin, mudiadau unigol ac ati er mwyn hybu a hyrwyddo addysg Gymraeg.

Oes yna ganllawiau i dderbyn grantiau?
Yn fwy na dim, mae'r Gronfa yna er mwyn hybu addysg Gymraeg. Mae nifer o ysgolion a chylchoedd meithrin wedi cael grantiau i greu baneri a thaflenni marchnata deniadol a hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn cynnal ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o werth addysg Gymraeg.

Oes yna resymau eraill gellir gofyn am grant?
Rhoddwyd cymorth ariannol i nifer o gylchoedd meithrin i brynu offer neu adnoddau newydd. Mae hyn wedi eu helpu i wella eu delwedd a rhoi gwell gwasanaeth i’r plant. Mewn rhai achosion, y cymorth hwn oedd wedi helpu’r cylch i gael dau ben llinyn ynghyd a’u hachub rhag gorfod cau dros dro tra’n ‘mynd trwy gyfnod anodd’.
Hefyd rhoddwyd cymorth ariannol i rai teuluoedd unigol er mwyn talu ffioedd neu gostau teithio. Oni bai am hyn, fyddai’r plant ddim wedi gallu parhau i fynychu cylchoedd neu ysgolion Cymraeg.
Dylid nodi nad yw’r Gronfa yn cynnig grantiau ar gyfer cyfer costau cynnal a chadw adeilad a chostau staff.

Ydy yn werth i mi geisio am grant?
Mae’r ymgyrchoedd a’r cymorth hyn gan Gronfa Glyndŵr wedi sicrhau cynnydd yn nifer y plant sy’n cael y cyfle i dderbyn addysg Gymraeg.
Oes gennych esiamplau penodol lle mae grantiau wedi helpu a gwneud gwahaniaeth?

Cylch Meithrin Ysgol Dewi Sant, Rhyl (Marchnata)
“Mae’r grant wedi ein galluogi ni i gynhyrchu taflenni, hysbysebion Facebook ac archebu baneri. Mae’r ymgyrch marchnata wedi bod yn llwyddianus ac erbyn heddiw mae gennym 40 o blant bach rhwng 2 a 4 oed ar ein cofrestr ac rydym ond wedi bod ar agor ers Medi 2020. Rydym wedi derbyn nifer o geisiadau yn uniongyrchol o’r ymgyrch marchnata, sydd yn dilyn i argymhellion gan gwsmeriaid, ac ynghyd a lleoliad newydd y Cylch, mae hyn wedi denu cynnydd o oddeutu 80% yn ymholiadau am ein gwasanaeth.”

Mudiad Meithrin Caerffili (Marchnata)
Dyma linc i fideo “Beth yw Cylch Meithrin” a gynhyrchwyd gan Fudiad Meithrin Caerffili -  https://youtu.be/RLzC6v_zmaE 

Cylch Meithrin Cerrigydrudion (Adnoddau)
 “Defnyddiwyd yr arian grant i brynu adnoddau hanfodol megis paent, glud, papur, llyfrau lloffion ar gyfer gweithgareddau celf wythnosol, costau printio, adnoddau chwarae (anifeiliaid yr arctig, jyngl a deinosoriaid, llestri te, adnabod lliwiau ayyb), prynu llyfrau a gwella yr ardal ddarllen ac adnoddau addysgol.”

Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad, Caerdydd (Taflenni Marchnata)
“Ar gyfer mynediad Medi 2020 a Medi 2021 amcangyfrifwyd gan y Cyngor Sir, ar sail patrymau traddodiadol , y byddai’r ysgol yn denu tua 50 o blant – patrwm a fyddai’n ddigon i gynnal un dosbarth fesul blwyddyn. Yn dilyn gwaith egnïol gan yr Ysgol, wedi ei gefnogi gan Gronfa Glyndŵr mae’n dda iawn gennym gadarnhau fod 60 o ddisgyblion wedi cychwyn yn Ysgol Hamadryad ym mis Medi 2020 a bod bron i 60 o geisiadau ar gyfer mynediad Medi 2021. Yn hytrach na 50 o ddisgyblion fel a disgwylid gan y Sir, felly, llwyddwyd i ddenu dros 110.”

Canllaw Gwaith Cartref Cyngor Sir Gaerfyrddin
Dyma linc i wefan Llyfryn Canllaw Gwaith Cartref:
https://www.sirga r.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur- cyngor/addysg- ac-ysgolion/addysg- ddwyieithog/ # .X09KG3dFzIU

O ble daw’r arian?
Mae’r Gronfa’n dibynnu’n llwyr ar gyfraniadau gan gefnogwyr ‘yr achos’ –  yn rhoddion unigol, archebion banc ac, o bryd i’w gilydd, roddion trwy ewyllys.

Ydy Cronfa Glyndŵr yn gweithio gyda mudiadau eraill?
‘Rydym yn cydweithio gyda Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) a’r Mudiad Meithrin (MM), i geisio sicrhau bod ein hadnoddau yn cael eu cyfeirio at fannau lle mae gwir angen - a lle gall ein cyfraniad wneud gwahaniaeth.

 Ydy’r Gronfa yn Elusen?
Ydy a Rhif Cofrestru’r Elusen yw 525762

Sut i wneud cais?                              
Gwahoddir ceisiadau ar ffurf llythyr neu, gorau oll, e-bost. Anfonwch eich cais at: Wyn Rees, Ysgrifennydd Cyffredinol Cronfa Glyndŵr, Llys y Coed, Heol Pantygored, Pentyrch, Caerdydd, CF15 9NE ( llysycoed@btinternet.com )
​
Sut i wneud cyfraniad ariannol?
‘Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr unrhyw gyfraniadau ariannol, boed yn daliadau unigol neu`n rhai rheolaidd. Ar hyn o bryd rydym yn derbyn cyfraniadau rheolaidd: misol, pob chwe mis a blynyddol sydd yn amrywio o £5.00 y mis hyd at £1,000.00 y flwyddyn. Wrth ddefnyddio cynllun Rhodd Cymorth ‘rydym yn medru ychwanegu 25% i’r cyfraniadau hyn sydd yn werthfawr iawn.
‘Rydym hefyd yn croesawu rhoddion drwy ewyllys.  ‘Rydym yn barod i gyfrannu £100.00 at gostau cyfreithiol paratoi ewyllys ble mae’r Gronfa yn derbyn rhodd dan yr ewyllys ond rhaid gofyn am gadarnhad ymlaen llaw os ydych am dderbyn cyfraniad gennym.
 Os hoffech chi gynnwys y Gronfa mewn ymgyrch codi arian, byddwn yn hapus iawn i’ch cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn ee gyda ffeithiau, llenyddiaeth am y gwaith i sefydlu a chynnal ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Os ydych am gyfrannu, cysylltwch â’n Trysorydd,  Heledd Jones
, Waunwern, Llanpumsaint, Caerfyrddin SA33 6LB heledd.jones.347@hotmail.com Bydd Heledd yn hapus iawn i roi manylion ein cyfrif banc a danfon ffurflen addas atoch. Gellir, hefyd, lawrlwytho ffurflen addas o wefan y Gronfa o dan: “O ble y daw’r arian?”.


Cysylltiadau gyda mudiadau eraill

Mudiad Meithrin   www.meithrin.cymru

Rhag Rhieni dros Addysg Gymraeg. http://www.rhag.net/

Merched y Wawr. http://merchedywawr.cymru/

Mentrau Iaith Cymru http://www.mentrauiaith.org/

Dyfodol.  http://www.dyfodol.net

Cymdeithas yr Iaith  http://www.cymdeithas.cymru
Picture
Picture
Proudly powered by Weebly